Ted Hughes
bardd Saesneg ac awdur plant (1930-1998) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur a bardd oedolion a phlant Seisnig oedd Edward James Hughes (Ted Hughes) OM (17 Awst 1930 – 28 Hydref 1998). Adnabyddir gan feirniaid llenyddol fel un o lenorion gorau ei oes.[1]
Ted Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1930 Mytholmroyd |
Bu farw | 28 Hydref 1998 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, astroleg, awdur ffuglen wyddonol, awdur plant, ysgrifennwr |
Swydd | Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Czesław Miłosz, William Blake, John Donne, Gerard Manley Hopkins, T. S. Eliot, Arthur Schopenhauer, Robert Graves |
Priod | Sylvia Plath, Carol Hughes |
Plant | Frieda Hughes, Nicholas Hughes |
Gwobr/au | Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Urdd Teilyngdod, OBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant, Torch Aur, Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Somerset Maugham, T. S. Eliot Prize, Gwobr Hawthornden, Heinemann Award |
Priododd bardd Americanaidd Sylvia Plath yn 1956, ond fe hunanladdodd hi yn 1963 yn 30 oed. Daeth ei ran y berthynas yn ddadleuol, yn ranol oherwydd rhai ffeminyddion ac yn arbennig, edmygwyr Amercanaidd Plath, a aeth mor bell hyd yn oed ai gyhuddo o lofruddiaeth.[2] Ni gymerodd Ted Hughes ei hun, ran yn y dadleuon yn gyhoeddus, ond mi archwiliodd Birthday Letters (1998), eu perthynas cymhleth, ac i nifer, rhoddwyd ef mewn golau gwell oi herwydd.[3]
Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1984, yn dilyn marwolaeth John Betjeman. Fe'i dilynwyd gan Andrew Motion ar ôl ei farwolaeth ei hun.
Porteadwyd ef yn 2003 gan yr actor Daniel Craig yn y ffilm Sylvia, ffilm fywgraffiadol am Sylvia Plath.