Tataouine (talaith)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae talaith Tataouine (Arabeg: ولاية تطاوين) yn un o 24 talaith (gouvernorat) Tiwnisia. Fe'i lleolir yn ne eithaf Tiwnisia, gan ffinio ag Algeria i'r gorllewin a Libia i'r dwyrain. Talaith Tataouine yw'r gouvernorat fwyaf yn y wlad gyda arwynebedd tir o 38,889 km² a phoblogaeth o 144,000 (cyfrifiad 2004). Tataouine yw prifddinas y dalaith.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | Taleithiau Tiwnisia |
---|---|
Prifddinas | Tataouine |
Poblogaeth | 149,453 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 38,889 km² |
Cyfesurynnau | 32.9256°N 10.4442°E |
TN-83 | |
Cau
Mae'r rhan fwyaf o'r dalaith yn gorwedd ar ymyl ogleddol y Sahara ac yn anialwch tywodlyd neu greigiog a elwir y Grand Erg Oriental.