Tarteseg
iaith / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tarteseg yn cyfeirio at iaith farw ym Mhenrhyn Iberia cyn y goncwest Rufeinig, oedd ynghlwm wrth ddiwylliant Tartessos. Roedd yn cwmpasu ardal ddaearyddol sy'n cyfateb heddiw i'r ran o Bortiwgal i'r de o afon Tagus, a gorllewin Andalucía yn Sbaen. Ceir tystiolaeth o'r iaith o'r 5ed ganrif CC gyda arysgrifau yn sgript y De-orllewinol neu'r sgript Tartesaidd, un o'r sgriptiau Paleo-Sbaenaidd hynaf y gwyddys amdano. Derbynnir yn gyffredin bellach nad iaith Indo-Ewropeaidd oedd Tarteseg. Mae'r un peth yn wir ar gyfer Ibereg, ac mae rhai yn tybio bod y ddwy iaith yn perthyn i'w gilydd[1].
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dd/Mapa_lleng%C3%BCes_paleohisp%C3%A0niques-cast.jpg/640px-Mapa_lleng%C3%BCes_paleohisp%C3%A0niques-cast.jpg)
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Nifer y siaradwyr ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | iaith farw, iaith yr henfyd, iaith ansicr ei dosbarthiad ![]() |
---|---|
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-3 | txr ![]() |
System ysgrifennu | Gwyddor Paleo-Sbaenaidd y De Orllewin ![]() |
Cau