From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymdeithasegwr o'r Unol Daleithiau oedd Talcott Parsons (13 Rhagfyr 1902 – 8 Mai 1979) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaeth gweithredu gwirfoddol.
Talcott Parsons | |
---|---|
Ganwyd | 13 Rhagfyr 1902 Colorado Springs, Colorado |
Bu farw | 8 Mai 1979 München |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cymdeithasegydd, academydd, biolegydd |
Swydd | President of the American Sociological Association |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Social System, The Structure of Social Action |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Edward Smith Parsons |
Mam | Mary Augusta Parsons |
Plant | Charles Parsons |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Ganed yn Colorado Springs, Colorado, Unol Daleithiau America. Wedi iddo dderbyn ei radd baglor o Goleg Amherst, Massachusetts, ym 1924, astudiodd yn Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Heidelberg. Enillodd ei ddoethuriaeth o Heidelberg ym 1927. Gweithiodd Parsons yn diwtor economeg ym Mhrifysgol Harvard cyn dechrau addysgu cymdeithaseg yno ym 1931. Fe'i penodwyd yn athro ym 1944, ac ym 1946 yn gadeirydd ar yr adran newydd i astudio cysylltiadau cymdeithasol. Bu yn y swydd honno nes 1956, a gweithiodd yn Harvard nes iddo ymddeol ym 1973. Bu farw ym München, Gorllewin yr Almaen, yn 76 oed.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.