From Wikipedia, the free encyclopedia
Taith awyren ddomestig o Efrog Newydd i Charlotte, North Carolina, ar 15 Ionawr 2009 oedd taith 1549 US Airways (AWE1549). Glaniodd y peilot ei awyren heb bŵer mewn argyfwng yn Afon Hudson ar ôl i'r ddau beiriant jet fethu. Achos yr argyfwng oedd i'r awyren daro haid o adar. Cafodd pob un o'r 155 person (teithwyr a staff) eu symud allan o'r awyren yn llwyddiannus a'u hachub gan gychod, cyn i'r awyren suddo yn yr afon. Er y cafwyd nifer o anafiadau, rhai ohonynt yn ddifrifol, dim ond un person a gadwyd mewn ysbyty dros nos. Daeth y digwyddiad yn enwog fel "gwyrth ar afon Hudson", a chydnabyddwyd y peilot, Captain Sullenberger, yn arwr yn ôl rhai adroddiadau.[1][2]
Roedd yr Airbus A320-200, ar ei daith o Faes Awyr LaGuardia yn Efrog Newydd i Faes Awyr Rhyngwladol Charlotte Douglas yn Charlotte, North Carolina. Wedi tri munud o hedfan, am 3:27 y.h. EST, tarodd yr awyren haid o wyddau Canadaidd wrth ddringo o LaGuardia, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Bont George Washington.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.