![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/90/13-08-06-abu-dhabi-by-RalfR-102.jpg/640px-13-08-06-abu-dhabi-by-RalfR-102.jpg&w=640&q=50)
System rhifolion Hindŵ-Arabaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
System o rifolion degol positif yw system rhifo Arabaidd neu system rif Hindŵ-Arabaidd;[1] hi yw'r system fwyaf cyffredin drwy'r byd, ar gyfer cynrychioli rhifau drwy symbolau e.e "7".[2] Defnyddid y gair Hindŵ gan yr Arabiaid (neu'r Persiaid) yr adeg honno am bobl o India. Cyrhaeddodd y system hon drwch poblogaeth gwledydd Prydain yn y 15g, ac ymhlith y rhai a geisiodd ei hamlygu roedd y Cymro o Sir Benfro Robert Recorde, yn ei lyfr The ground of artes, 1543. Cyn hynny, defnyddid y dull Rhufeinig.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/90/13-08-06-abu-dhabi-by-RalfR-102.jpg/640px-13-08-06-abu-dhabi-by-RalfR-102.jpg)
Fe'i dyfeisiwyd gan fathemategwyr Indiaidd rhwng 1g a'r 4g a mabwysiadwyd y system gan fathemategwyr Arabaidd erbyn y 9g. Ystyrir llyfrau Muḥammad ibn Mūsā al-Khwārizmī yn aruthrol bwysig (Cyfrifo gyda Rhifau Hindŵ, c.825) ac Al-Kindi (Ar y Defnydd o Rifau Hindŵaidd, c.830). Ymledodd y system, yn ddiweddarach, i Ewrop ganoloesol.[3]
Mae'r system wedi'i seilio ar ddeg glyff (neu symbol) gwahanol - naw yn wreiddiol. Mae'r glyffs a ddefnyddir i gynrychioli'r system, mewn egwyddor, yn annibynnol ar y system ei hun. Mae'r glyffiau a ddefnyddir heddiw yn ddisgynyddion rhifolion Brahmi ac maent wedi rhannu'n amrywiol amrywiadau teipograffyddol ers yr Oesoedd Canol; heddiw, ceir 3 prif grwp. Caiff ei ystyried yn system o nodiant sy'n dibynnu ar leoliad y glyff.