Sylvia Anderson
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Camberwell yn 1927 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores, awdures a chynhyrchydd ffilm a theledu, Seisnig oedd Sylvia Anderson (née Thamm, 27 Mawrth 1927 – 15 Mawrth 2016) oedd yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Gerry Anderson, ei gŵr rhwng 1960 ac 1981.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Sylvia Anderson | |
---|---|
Ganwyd | Sylvia Thamm 25 Mawrth 1927 Camberwell |
Bu farw | 15 Mawrth 2016 Bray |
Dinasyddiaeth | Y DU |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, nofelydd, hunangofiannydd, sgriptiwr, actor llais, cynhyrchydd teledu, asiant talent, cynhyrchydd |
Priod | Gerry Anderson |
Gwefan | http://www.sylviaanderson.org.uk |
Cau
Yn ogystal â chyd-greu a chyd-ysgrifennu eu cyfresi teledu yn ystod y 1960au a'r 1970au, prif gyfraniad Anderson oedd datblygu'r cymeriadau a dylunio'r gwisgoedd.[2] Byddai'n cyfarwyddo'r sesiynau recordio llais yn rheolaidd, ac yn lleisio rhai cymeriadau benywaidd a phlant, yn arbennig y cymeriad Lady Penelope yn Thunderbirds. Fe ysgarodd y cwpl ar ddechrau'r 1980au ar ôl iddynt wahanu am 5 mlynedd.[1]
Bu farw Anderson ar 15 Mawrth 2016, yn 88 mlwydd oed, yn dilyn salwch byr.[3]