Rhanbarth diwyllianol, hanesyddol ac ieithyddol yn yr Almaen yw Swabia (Almaeneg : Schwaben ; hefyd Schwabenland neu Ländle ar lafar; ceir y ffurfiau hynafiaethol Suabia a Svebia hefyd weithiau). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin yr Almaen gan gynnwys rhan helaeth talaith Baden-Württemberg am y ffin â'r Swistir . Enwir Swabia ar ôl y Suebi , llwyth Germanaidd hynafol.
Ardal Swabia o fewn ffiniau presennol yr Almaen.
Swabia yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (map 1572).
Roedd Swabia yn un o'r deg Cylch Ymerodrol yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig o 1500 hyd ddiwedd yr Ymerodraeth yn 1806. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn ardal helaethach o lawer, yn ymestyn o fynyddoedd y Vosges yn y gorllewin i Afon Lech yn y dwyrain: roedd y diriogaeth honno'n cynnwys yr Alsace hanesyddol, ardal Baden ar lannau Afon Rhein , yr ardaloedd Almaeneg eu hiaith yng ngogledd y Swistir, talaith Vorarlberg yn Awstria a Thywsogaeth Liechtenstein .
Detholiad o rai Swabiaid adnabyddus:
Friedrich Adler (artist) (cynlluniwr Jugendstil ac Art Deco)
Roland Asch (gyrrwr ceir rasio)
Dieter Baumann (athletwr)
Albrecht Behmel (hanesydd)
Götz von Berlichingen (marchog)
Robert Bosch (dyfeisydd)
Berthold Brecht (bardd a dramodydd)
Gottlieb Daimler (sylfenydd cwmni ceir Daimler )
Rudolf Diesel (dyfeisydd yr injan Diesel)
Josef Eberle (bardd)
Jörg von Ehingen (marchog ac awdwr dyddiadur canoloesol)
Albert Einstein (ffisegwr)
Siegfried Einstein (bardd)
Georg Elser (ceisiodd asasineiddio Adolf Hitler yn Munich yn 1939)
Roland Emmerich (cyfarwyddwr ffilm Hollywood)
Gudrun Ensslin (aelod o'r Red Army Faction sef y Giang Baader-Meinhof )
Johann Georg Faust (dewin, sail i'r cymeriad Faust )
Wilhelm Groener (swyddog)
Wilhelm Hauff (bardd)
Georg Wilhelm Friedrich Hegel (athronydd)
Martin Heidegger (athronydd)
Ernst Heinkel (cynlluniwr awyrennau)
Hermann Hesse (llenor, enillydd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth 1946)
Theodor Heuss (cyn arlywydd)
Friedrich Hölderlin (bardd)
Johannes Kepler (seryddwr a mathemategwr)
Justinus Kerner (bardd)
Carl Friedrich Kielmeyer (biolegydd)
Kurt Georg Kiesinger (gwleidydd)
Carl Laemmle (sylfaenwr Universal Studios )
Ottmar Mergenthaler (dyfeisydd y linotype )
Eduard Mörike (bardd)
Leopold Mozart , tad Wolfgang Amadeus Mozart
Gerd Müller (cyn beldroediwr)
Reinhold Nägele (artist)
Friedrich Immanuel Niethammer (diwinydd, noddwr Hegel )
Erwin Rommel (cadfridog)
Friedrich Wilhelm Joseph Schelling (athronwr)
Friedrich Schiller (llenor a hanesydd)
Claus von Stauffenberg (ceisiodd ladd Adolf Hitler )
Margarete Steiff (gwneuthurwr teganau)
Andreas Stihl (sylfaenwr Stihl Maschinenfabrik)
Ludwig Uhland (bardd)
Richard von Weizsäcker (gwleidydd)
Ffeithiau sydyn
Comin Wikimedia
Cau