![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/Agrafeuse_Sunset_Mallat_n%25C2%25B0825_02.jpg/640px-Agrafeuse_Sunset_Mallat_n%25C2%25B0825_02.jpg&w=640&q=50)
Styffylwr
offer swyddfa, a meddygol, i ddal dalennau at ei gilydd neu yn erbyn pared, neu uno organnau / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais yw'r styffylwr,[1] hefyd styffylydd, stwfflwr ac ar lafar staplwr sy'n cael ei defnyddio i atodi dalennau o bapur, plastig neu daflenni pren trwy osod stwffwl drwy'r elfennau sydd angen eu hatodi. Mae'r 'stwffwl' neu 'staplen' ("staple", sef yr 'hoelen' sy'n dal y papurach at ei gilydd) fel arfer wedi ei wneud o haearn sydd fel arfer yn siap hitsgwar tair-ochrog ond o dan rym y styffylwr bydd dau ben miniog yn cau am fewn gan amgau'r deunydd papur mewn un gafael, megis crafanc.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/Agrafeuse_Sunset_Mallat_n%C2%B0825_02.jpg/640px-Agrafeuse_Sunset_Mallat_n%C2%B0825_02.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1c/Three_staples.jpg/640px-Three_staples.jpg)
Caiff y stwffwl ei ddatod o'r papur, pren neu decstil gan declyn datstyffylwr.