cymuned yn ninas Casnewydd, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned yn ninas Casnewydd yw Stow Hill. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,453.
Mae'r gymuned yn cynnwys y rhan fwyaf o ganol y ddinas. Yma mae Eglwys Gadeiriol Casnewydd, a gysegrwyd i sant Gwynllyw, ac roedd safle'r priordy canoloesoedd hefyd yn y gymuned yma. Yma hefyd mae Gwesty'r Westgate, lle daeth Gwrthryfel Casnewydd i ben yn 1839 pan saethwyd ar y gorymdeithwyr. Enwyd Sgwar John Frost ar ôl un o arweinwyr y gwrthryfel; yma y ceir llyfrgell ganolog Casnewydd a'r oriel gelf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jessica Morden (Llafur).[1][2]
Wrth gloddio sylfeini i'r ganolfan gelfyddydau, cafwyd hyd i weddillion Llong Casnewydd, llong sy'n dyddio o tua'r 15eg ganrif. Mae ar hyn o bryd yn cael ei hadfer.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Stow Hill (pob oed) (4,773) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Stow Hill) (380) | 8.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Stow Hill) (2845) | 59.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Stow Hill) (769) | 34.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.