![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/Estatuto_de_Galicia_de_1936.pdf/page1-640px-Estatuto_de_Galicia_de_1936.pdf.jpg&w=640&q=50)
Statud Ymreolaeth Galisia (1936)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Statud a ddiffiniodd annibyniaeth i Galisia ac a grewyd gan Partido Galeguista (neu 'Blaid Galisia') ym 1936 yw Statud Ymreolaeth Galisia (1936). Fe'i derbyniwyd yn bennaf gan iddo gael ei gynnig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ond ni ddaeth i rym oherwydd Llywodraeth unbeniaethol Sbaen, dan arweiniad Francisco Franco.
- Gofal: Cafwyd Statud Ymreolaeth diweddarach yn 1981.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/Estatuto_de_Galicia_de_1936.pdf/page1-640px-Estatuto_de_Galicia_de_1936.pdf.jpg)
Yr ysbrydoliaeth gwreiddiol y tu ôl i'r Statud oedd y Mudiad Gweriniaethol dros Annibyniaeth Galisia (Organización Republicana Gallega Autónoma (neu'r ORGA)) a'r cenedlaetholwyr Villar Ponte a Lois Peña Novo.[1][1] Ond erbyn diwedd 1932, cymrwyd y gwaith drosodd gan 'Gynulliad y Rhabarthau' a'r blaid genedlaethol, y 'Partido Galeguista', a baratodd y drafft terfynol. Ar gychwyn y 1930au awgrymodd sawl person y byddai datganoli pwer, drwy greu clwstwr ffederal o wledydd yn fanteisiol i Sbaen hefyd.[2]
Yn 1932 galwodd Raimundo López Pol, Maer Santiago de Compostela, cynghorwyr holl Ranbarthau Galisia at ei gilydd i drafod y drafft hwn ac yn Rhagfyr y flwyddyn honno, fe'i derbyniwyd gan gynrychiolwyr 84.7% o'r boblogaeth. Ar 28 Mehefin, cafwyd Refferendwm cenedlaethol ar y fersiwn terfynol a chafwyd 993,351 o bleidleisiau o'i blaid, sef 74.56 o'r etholaeth a dim ond 6161 yn ei erbyn. O'r dinasyddion hynny a fwrwodd eu pleidlais, roedd 99% o blaid Annibyniaeth. Ar 15 Gorffennaf, fe'i cyflwynwyd gan Román Gómez (Ysgrifennydd Cyffredinol Partido Galleguista) ac AS Castelao i Lywydd y Llywodraeth.[3]
Roedd y Statud yn gwneud y Galisieg a'r Sbaeneg yn ieithoedd swyddogol, a nodwyd y byddai'n rhaid i weision sifil allu'r ddwy iaith.[4] Rhoddai hefyd yr hawl i Galisia ethol ei senedd ei hun a bod yn gyfrifol am ei system etholaethol ei hun yn ogystal â chodi trethi ayb.[5]
Ni ddaeth y Statud i rym, fodd bynnag, oherwydd Llywodraeth unbeniaethol Sbaen, dan arweiniad Francisco Franco.