Starlink
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Starlink yn rhwydwaith o loerenni a grewyd ac a weithredir gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX,[1] sy'n darparu gwasanaeth i dros 70 o wledydd. Caiff hefyd ei alw'n 'gysawd y rhyngrwyd'. Bydd y rhwydwaith hwn hefyd yn wasanaeth ffonau symudol ar raddfa byd-eang erbyn 2024.[2]
Enghraifft o'r canlynol | clwstwr lloerenni Rhyngrwyd, prosiect |
---|---|
Màs | 227 cilogram, 260 cilogram, 295 cilogram, 800 cilogram, 1,250 cilogram |
Gwlad | UDA |
Dechrau/Sefydlu | Ionawr 2015 |
Gweithredwr | SpaceX |
Gwneuthurwr | SpaceX |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.starlink.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd SpaceX lansio lloerennau Starlink ym Mai 2019. Yn Nhachwedd 2023, roedd gan y cytser o loerenni'n dros 5,500 o loerenni bach (wedi'u masgynhyrchu) mewn orbit isel o'r Ddaear (LEO)[3] ac maent yn cyfathrebu â throsglwyddyddion ar y Ddaear. Bydd y nifer terfynol o loerenni'n nes at 12,000; ac mae ail gam y cynllun yn cynyddu'r nifer hwn ymhellach - i tua 42,000 lloeren. Cyhoeddodd SpaceX ei fod wedi cyrraedd mwy nag 1 miliwn o danysgrifwyr yn Rhagfyr 2022, 1.5 miliwn o danysgrifwyr ym Mai 2023, a 2 filiwn o danysgrifwyr m Medi 2023. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn Rhyfel Rwsia-Wcrain.[4]
Lleolir cyfleuster datblygu lloerenno SpaceX yn Redmond, Washington sy'n gartref i'r ymchwil i'r dechnoleg, sy'n datblygu'r lloerenni o ddydd i ddydd, sy'n gweithgynhyrchu'r lloerenni ac yn rheoli'r cylchdroeon (orbits). Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm cost dylunio, adeiladu a defnyddio'r gytser o leiaf US$10 biliwn.[5] Yn Ionawr 2017 amcangyfrifodd SpaceX y byddai'r refeniw blynyddol gan Starlink tua $12 biliwn erbyn 2022[6] ac yn fwy na $30 biliwn erbyn 2025.[7] Dywedwyd bod refeniw gwirioneddol o Starlink yn 2022 yn $1.4 biliwn.[8] Disgrifiwyd y perfformiad hwn fel "methiant" gan SpaceX.[8][9][10]
Mae seryddwyr wedi codi pryderon am yr effaith y gallai'r cytser ei chael ar seryddiaeth ar y Ddaear, a sut y bydd y lloerenni'n cyfrannu negyddol at amgylchedd orbital sydd eisoes yn orlawn.[11] Mae SpaceX wedi ceisio lliniaru pryderon seryddol gyda mesurau i leihau disgleirdeb y lloerennau. Byddant yn dad-orbitio yn otomatig ar ddiwedd eu hoes. Maent hefyd wedi'u cynllunio i osgoi gwrthdrawiadau yn annibynnol ac yn llyfn yn seiliedig ar ddata tracio.[12]