Stalactid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyddodyn mwynol conigol neu silindrog o galsit yn hongian o nenfwd ogof galchfaen yw stalactid, mae iddo hyd sy'n amrywio o ychydig gentimetrau i sawl metr. Yr enw am y dyddodyn sy'n tyfu'n groes - o'r llawr tuag i fyny yw stalagmid.
Ffeithiau sydyn Math, Y gwrthwyneb ...
Math | dripstone |
---|---|
Y gwrthwyneb | Stalagmid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae stalactidau yn ymffurfio wrth i'r diferion dŵr calchaidd, sy'n diferu o nenfwd yr ogof, golli cyfran o'r gormodedd o garbon deuocsid sydd ynddynt a dyddodi eu llwyth hydawdd o galsiwm carbonad. Mae hyd y stalactid yn ymestyn wrth i fwy a mwy o galsiwm carbonad ymgasglu ar ei ben isaf.[1]