![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b1/North_Street%252C_Swords%252C_Co._Dublin_-_geograph.org.uk_-_381905.jpg/640px-North_Street%252C_Swords%252C_Co._Dublin_-_geograph.org.uk_-_381905.jpg&w=640&q=50)
Sord
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref yn Swydd Fingal yn nwyrain Gweriniaeth Iwerddon yw Sord[1] neu Sord Cholmcille (Saesneg: Swords). Saif gerllaw Maes Awyr Dulyn. Daeth yn brif dref Swydd Fingal pan grewyd y swydd honno yn 1994 trwy rannu Swydd Dulyn.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 36,924 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Fingal ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 11.35 km² ![]() |
Uwch y môr | 3 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.4597°N 6.2181°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Colum Cille ![]() |
Cau
Dywedir i'r dref gael ei sefydlu gan Sant Colmcille tua 560. Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar; yn 2011 roedd yn 42,738. Mae'r castell yn atyniad i dwristiaid, ac roedd abaty yma hefyd.
Yma y dygwyd corff Brian Boru ar ôl Brwydr Clontarf, ac yma y magwyd Gruffudd ap Cynan, a ddaeth yn frenin Gwynedd yn ddiweddarach.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b2/Main_Street_Swords.jpg/320px-Main_Street_Swords.jpg)