![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/26/Somali_map.jpg/640px-Somali_map.jpg&w=640&q=50)
Somalieg
iaith / From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith Affro-Asiaidd yn y gangen Gwshitig sy'n tarddu o Gorn Affrica ac yn iaith frodorol y Somaliaid yw Somalieg.[2] Mae'n perthyn i is-gangen yr Iseldiroedd Dwyreiniol yr ieithoedd Cwshitig, ynghyd ag Afar a Saho.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw ![]() |
---|---|
Math | Cushitic, Somali languages ![]() |
Enw brodorol | Af-Soomaali ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | so ![]() |
cod ISO 639-2 | som ![]() |
cod ISO 639-3 | som ![]() |
Gwladwriaeth | Jibwti, Ethiopia, Cenia, Somalia, Somaliland ![]() |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Somali alphabets ![]() |
![]() |
Siaredir Somalieg gan ryw 15 miliwn o bobl yn Nwyrain Affrica, y mwyafrif helaeth ohonynt yn Somaliaid ethnig. Somalieg yw prif iaith ac iaith swyddogol Somalia a Somaliland, un o ieithoedd swyddogol Jibwti, a phrif iaith yr Ardal Somali yn nwyrain Ethiopia a Thalaith y Gogledd Ddwyrain yng Nghenia. Bydd rhai cenedlaetholwyr Somali yn galw am uno'r holl diriogaethau lle siaredir Somalieg i greu Somalia Fawr.
Mabwysiadwyd yr wyddor Ladin i ysgrifennu Somalieg yn y 1970au, ac erbyn heddiw dyma'r wyddor fwyaf gyffredin. Ceir hefyd ffyrdd o ysgrifennu Somalieg yn yr wyddor Arabeg a systemau arbennig a gawsant eu creu yn yr 20g.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/26/Somali_map.jpg/640px-Somali_map.jpg)