![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/67/Sl%25C3%25A1intecareHSERegionalHealthAreas.svg/langcy-640px-Sl%25C3%25A1intecareHSERegionalHealthAreas.svg.png&w=640&q=50)
Sláintecare
Cynllun diwygio system iechyd Iwerddon / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Sláintecare yn raglen 10-mlynedd i ddiwygio system iechyd Gweriniaeth Iwerddon.[1]
Ffeithiau sydyn
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/67/Sl%C3%A1intecareHSERegionalHealthAreas.svg/320px-Sl%C3%A1intecareHSERegionalHealthAreas.svg.png)
Yn 2017 cyhoeddwyd ddogfen ar gynllun diwygio 10 mlynedd Sláintecare gyda chefnogaeth trawbleidiol.[2]
Y weledigaeth ar gyfer Sláintecare yw i ffurfio system iechyd a gofal cymdeithasol o un haen, lle mae gan bawb fynediad at wasanaethau yn ôl yr angen.[3]
Mae argymhellion Sláintecare hefyd yn cynnwys:
- cyllidio a darparu adnoddau i ddatblygu gwasanaeth iechyd a lles plant
- dileu taliadau cleifion mewnol am ofal ysbyty cyhoeddus
- lleihau costau presgripsiwn ar gyfer deiliaid cardiau meddygol
- dileu tâl yyn yr Adran Achosion Brys
- sicrhau gofal sylfaenol cyffredinol
- gwahanu cyllid cyhoeddus a phreifat mewn ysbytai aciwt
- dileu'r gallu i gwmniay yswiriant gyllidio gofal iechyd breifat mewn ysbytai cyhoeddus[4]
Disgrifiodd Ireland's Future y cynllun fel sail ar gyfer system iechyd mewn Iwerddon unedig.[4] Yn ogystal, disgrifiodd newyddiadurwr yn yr Irish Examiner mai creu ac ariannu system Sláintecare fyddai'r peth mwyaf diriaethol a ellir ei wneud i ddileu y ffin ar ynys Iwerddon.[5]