![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/Grandmother_and_the_granddaughter.jpg/640px-Grandmother_and_the_granddaughter.jpg&w=640&q=50)
Slafiaid
Cangen ieithyddol ac ethnig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cangen ieithyddol ac ethnig o'r bobloedd Indo-Ewropeaidd yw'r Slafiaid. O'u mamwlad gyntefig ar wastatiroedd Wcráin, ymledodd y bobloedd Slafaidd dros rhan helaeth o Ddwyrain Ewrop, gan wladychu'r Balcaniaid, glannau'r Baltig a Rwsia yn yr Oesoedd Canol cynnar. Gyda thwf Ymerodraeth Rwsia o'r 16g ymlaen, daeth Siberia ac ardaloedd eraill gogledd Asia o dan reolaeth Slafiaid.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | panethnicity ![]() |
---|---|
Math | pobl Indo-Ewropeaidd ![]() |
Mamiaith | Ieithoedd slafonaidd ![]() |
Poblogaeth | 300,000,000 ![]() |
Crefydd | Cristnogaeth, eglwysi uniongred, catholigiaeth, islam, protestaniaeth, paganiaeth, sunni, anffyddiaeth, slavic religion ![]() |
Yn cynnwys | Slafiaid Gorllewinol, Slafiaid Deheuol, Slafiaid y Dwyrain, Ancient Slavs, North Slavs, Bavaria Slavica ![]() |
System ysgrifennu | Glagolitic, Yr wyddor Gyrilig, Slavonic runes, Church Slavonic alphabet, Slavonic musical notation, Cyrillic numerals ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/59/Europa_eslava.svg/640px-Europa_eslava.svg.png)
Yn draddodiadol, dosbarthir y Bobloedd Slafaidd ar sail iaith yn dri grŵp: Slafiaid y Gorllewin (Tsieciaid, Pwyliaid, Slofaciaid a Sorbiaid), Slafiaid y Dwyrain (Belarwsiaid, Wcreiniaid a Rwsiaid) a Slafiaid y De (Bwlgariaid a bobloedd yr hen Iwgoslafia: Bosniaid, Croatiaid, Macedoniaid, Montenegroaid, Serbiaid a Slofeniaid).