seren ddeuol yng nghytser Canis Major From Wikipedia, the free encyclopedia
Seren ddisgleiriaf yn wybren y nos yw Sirius, gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o −1.46.[1][2] Mae hi oddeutu 8.6 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser Canis Major. Adnabyddir hefyd fel Alffa Canis Majoris (α CMa).[2]
Enghraifft o'r canlynol | seren ddwbl, navigational star |
---|---|
Rhan o | Hecsagon y Gaeaf, Triongl y Gaeaf |
Yn cynnwys | Sirius A, Sirius B |
Cytser | Canis Major |
Pellter o'r Ddaear | 8.6 ±0.04 blwyddyn golau |
Paralacs (π) | 379.21 ±1.6 |
Cyflymder rheiddiol | −5.5 ±0.4 cilometr yr eiliad |
Goleuedd | 25.4 |
Radiws | 1.711 |
Tymheredd | 9,797 Kelvin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r enw Sirius yn dod o'r Groeg hynafol Σείριος (Seirios) sydd yn golygu tanbaid. Adnabyddir Sirius hefyd fel Seren y Ci oherwydd y cysylltiad gyda'r cytser Canis Major, y Ci Mawr. Roedd gan yr Eifftiaid hynafol fytholeg eang yn ymwneud â Sirius, ac yr oedd codiad y seren ychydig cyn yr Haul yn dynodi'r cyfnod o'r flwyddyn pan oedd Afon Nîl yn gorlifo. Fe galwodd y Groegwyr hynafol y cyfnod hwn dyddiau'r cŵn.[3]
Yn 2016 cydnabyddodd yr Undeb Seryddol Rhyngwladol yr enw Sirius fel un swyddogol.[4] Mae'r enw wedi cael ei ddefnyddio yn Gymraeg ers canrifoedd.[5]
Mae Sirius yn seren ddwbl, gyda un o'r cydrannau, Sirius A, yn llawer iawn mwy disglair na'r ail, Sirius B. Gyda dosbarth sbectrol o A1V, mae Sirius A yn ymddangos gyda lliw gwyn i'r llygad noeth pan yn uchel yn yr awyr nos. Mae gan Sirius A fàs 2.12 gwaith màs yr Haul.[6]
Seren gorrach gwyn yw Sirius B gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o 8.44. Gallai Sirius B fod yn anodd i'w weld trwy rhai telesgopau seryddwyr amatur oherwydd effaith golau Sirius A. Mae'r ddwy seren yn cylchdroi dros gyfnod o 50 mlynedd. Mae'r pellter rhwng y ddwy yn newid o 8.1 i 31.5 gwaith y pellter rhwng yr Haul a'r Ddaear, oherwydd eu cylchdroeon hirgrynion. Mae gan Sirius B fàs 1.03 gwaith màs yr Haul.[6]
Ymddangosir Sirius yn agos i gytser Orion yn y wybren, a mae Sirius yn hawdd i'w ganfod trwy ddilyn llinell trwy tair seren wregys Orion i'r de-ddwyrain.
Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Sirius yn y wybren ar ddechrau mis Ionawr, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Ionawr a Mawrth mae Sirius yn rhan nodadwy o'r awyr nos am oriau ar ôl iddi nosi. Mae hwn yn golygu bod Sirius i'w weld gorau yn ystod y gaeaf o hemisffer gogleddol y byd, ac yn ystod haf hemisffer y de.
Gyda gogwyddiad o −17°, dydy Sirius byth yn codi mwy nag 22° uwchben y gorwel o Gymru. Felly, o Gymru, pan mae Sirius i'w weld yn yr awyr nos, gwelir uwchben gorwel y de, de-ddwyrain neu dde-orllewin. Oherwydd ei fod yn aml yn isel yn yr awyr, ac oherwydd ei ddisgleirdeb, mae Sirius yn aml yn dangos newidiadau yn ei liw a disgleirdeb i arsyllwyr yng Ngogledd Ewrop–effaith atmosffer y Ddaear yw hwn a dim byd i wneud â'r seren ei hun.
Mae Sirius y seren ddisgleiriaf o'r Ddaear oherwydd ei agosrwydd cymharol a'r ffaith bod y seren yn allyrru llawer o oleuni ei hun.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.