![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f6/Simone_Biles_National_Team_2024.jpg/640px-Simone_Biles_National_Team_2024.jpg&w=640&q=50)
Simone Biles
Gymnast artistig o Unol Daleithiau America / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gymnast artistig o Unol Daleithiau America yw Simone Arianne Biles Owens (ganwyd 14 Mawrth 1997). Mae ganddi 10 medal Olympaidd a 30 medal o Bencampwriaeth y Byd. Mae hi'n cael ei chydnabod fel y gorau erioed yn gymnasteg.
Simone Biles | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 14 Mawrth 1997 ![]() Columbus ![]() |
Man preswyl | Spring ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | jimnast artistig ![]() |
Taldra | 142 centimetr ![]() |
Priod | Jonathan Owens ![]() |
Partner | Jonathan Owens ![]() |
Gwobr/au | Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Gwobr Time 100, Gwobr 100 Merch y BBC, Medal Rhyddid yr Arlywydd ![]() |
Gwefan | http://www.simonebiles.com ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | United States women's national gymnastics team ![]() |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America ![]() |
Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro, cipiodd y fedal aur gyda thîm Unol Daleithiau America, ac yn y gystadleuaeth gyffredinol, ac ar y llofnaid a'r llawr. Enillodd y fedal efydd ar y trawst. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo, tynnodd yn ôl o'r cystadlu oherwydd cafodd y 'twisties' (sef colli hyder). Enillodd y fedal arian gyda thîm Unol Daleithiau America ac efydd ar y trawst. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 ym Mharis,[1] hi oedd yr Americanes gyntaf i ennill dwy fedal aur gyffredinol ac ar y llofnaid.[2] Enillodd Biles y fedal aur hefyd gyda thîm Unol Daleithiau America.
Mae Biles wedi ennill Cystadleuaeth unigol gyffredinol 6 gwaith (2013, 2014, 2015, 2018, 2019 a 2023) ym Mhencampwriaeth y Byd Gymnasteg Arsistig. Mae hi'n bencampwr llawr y byd 6 gwaith (2013, 2014, 2015, 2018, 2019, 2023), pencampwr trawst y byd 4 gwaith (2014, 2015, 2019, 2023), pencampwr llofnaid y byd 2 waith (2018, 2019). Roedd hi'n rhan o dîm Unol Daleithiau America a enillodd y fedal aur yn 2014, 2015, 2018, 2019 a 2023.
![P20220707AS-1273_(52308684538)](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ea/P20220707AS-1273_%2852308684538%29.jpg/640px-P20220707AS-1273_%2852308684538%29.jpg)
Yn 2019, torrodd Biles y record am y nifer fwyaf o fedalau Pencampwriaeth y Byd. Yn 2024, roedd ganddi 30 medal Pencampwriaeth y Byd.
Yn 2022, gwobrwyodd Joe Biden arlywydd y Unol Daleithiau America Medal Rhyddid yr Arlywydd iddi.[3]