![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a6/Trafalgar_Square%252C_London_2_-_Jun_2009.jpg/640px-Trafalgar_Square%252C_London_2_-_Jun_2009.jpg&w=640&q=50)
Sgwâr Trafalgar
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sgwâr yn Ninas Westminster, canol Llundain, yw Sgwâr Trafalgar (Saesneg: Trafalgar Square), yn agos at ganol swyddogol y ddinas a'i nodir gan gerflun o Siarl I yn Charing Cross, i'r de o'r sgwâr. Yn wreiddiol safai rhwng dinasoedd Llundain a Westminster, a lleolwyd y stablau brenhinol yno ers teyrnasiad Edward I. Yn 1820au adnewyddwyd yr ardal gan y pensaer John Nash ar gyfer Tywysog Rhaglyw. Enwir y sgwâr ar ôl buddugoliaeth y llynges Brydeinig ym Mrwydr Trafalgar ym 1805, ac fe saif Colofn Nelson, cofadail er coffa'r Arglwydd Nelson, yn y canol. Mae'r sgwâr o hyd wedi bod yn boblogaidd â phrotestwyr, er gwaethaf ad-drefniad y safle yn yr 1840au gan y pensaer Charles Barry, a cheisiodd lleihau'r nifer o bobl all ymgynull yno. Cafodd y sgwâr ei ail-gynllunio eto ym 1938 gan Edwin Lutyens ac yn 2003 gan Norman Foster.
![]() | |
Math | sgwâr, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Brwydr Trafalgar ![]() |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Cysylltir gyda | Northumberland Avenue, Whitehall, St Martin's Place, Y Strand, Duncannon Street, Cockspur Street, Pall Mall East ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.92 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5081°N 0.1281°W ![]() |
Cod OS | TQ3000780447 ![]() |
Rheolir gan | Awdurdod Llundain Fwyaf ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Lleolir yr Oriel Genedlaethol ar ochr ogleddol y sgwâr, llysgenhadaeth De Affrica i'r dwyrain, a llysgenhadaeth Canada i'r gorllewin. Bu'r sgwâr ynghynt yn enwog am y nifer o golomennod a ddaeth yno i gael eu bwydo gan y twristiaid, ond gwaharddwyd hyn gan Ken Livingstone tra'r oedd yn Faer Llundain.