![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/86/City_of_London%252C_seen_from_Tower_Bridge.jpg/640px-City_of_London%252C_seen_from_Tower_Bridge.jpg&w=640&q=50)
Dinas Llundain
dinas o fewn Llundain / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas fechan o fewn Llundain yw Dinas Llundain (Saesneg: City of London). Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Tafwys; mae'n ffinio â Westminster i'r gorllewin, Camden i'r gogledd-orllewin, Islington a Hackney i'r gogledd, a Tower Hamlets i'r dwyrain; saif gyferbyn â Southwark ar lan ddeheuol yr afon.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/45/LondonCity.svg/640px-LondonCity.svg.png)
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Domine dirige nos ![]() |
---|---|
Math | dinas, canolfan ariannol, ardal fusnes, siroedd seremonïol Lloegr, district of the United Kingdom, ardal gyda statws dinas, ardal ddi-blwyf ![]() |
Ardal weinyddol | ardal Llundain |
Poblogaeth | 8,583 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Charles Bowman ![]() |
Gefeilldref/i | Shanghai ![]() |
Nawddsant | yr Apostol Paul ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2.904 km² ![]() |
Uwch y môr | 20 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Tafwys, Afon Fleet ![]() |
Yn ffinio gyda | Dinas Westminster, Camden, Islington, Hackney, Tower Hamlets ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5156°N 0.0931°W ![]() |
Cod SYG | E09000001, E43000191 ![]() |
GB-LND ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Corfforaeth Dinas Llundain ![]() |
Corff deddfwriaethol | Court of Common Council ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arglwydd Faer Llundain ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Charles Bowman ![]() |
![]() | |
Dyma graidd hanesyddol Llundain, sydd wedi cadw ei ffiniau traddodiadol ers yr Oesoedd Canol. Cyfeirir ati fel Y Ddinas, Dinas neu'r Filltir Sgwâr, am fod ganddi arwynebedd o 2.6 km², sef bron milltir sgwâr. Mae'r enwau yma yn gyfystyr â chanolfan cyllidol y Deyrnas Gyfunol.
Yn yr Oesoedd Canol bu'r enw Llundain yn cyfeirio at y Ddinas yn unig, a oedd ar wahân i Westminster. Cysylltwyd y ddau gan Stryd y Fflyd (fel y'i gelwid o fewn y Ddinas) a droes yn Y Strand tu allan i furiau'r Ddinas.
Y Ddinas yw sir seremonïol lleiaf Lloegr a'r ddinas lleiaf ym Mhrydain Fawr ar ôl Tyddewi. Sylwer nad yw'r Ddinas yn un o 32 bwrdref Llundain.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/29/Aerial_view_of_the_City_of_London.jpg/640px-Aerial_view_of_the_City_of_London.jpg)