From Wikipedia, the free encyclopedia
Traddodiad gan bapurau newydd Lloegr yw'r sgetsh wleidyddol neu'r sgetsh seneddol. Mae'r sgetsh wleidyddol yn fath unigryw o newyddiaduraeth wleidyddol, yn aml ar ffurf colofn ffraeth gan ohebydd sy'n mynychu oriel y wasg yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Mae'r sgetsh yn meddiannu tir rhwng newyddiaduraeth ddifrifol a dychan. Mae'n canolbwyntio ar bersonoliaeth yn hytrach na pholisi, ac mae rhai newyddiadurwyr—a nifer o wleidyddion—yn ei hystyried yn newyddiaduraeth sarhaus sy'n targedu unigolion mewn modd annheg,[1][2][3] ac yn debycach i straeon gwasg y gwter er bod sgetshis yn ymddangos yn y "papurau o safon" yn bennaf. Ond eto, mae eraill yn gweld y sgetsh wleidyddol yn atodiad angenrheidiol i'r adroddiadau gwleidyddol a ysgrifennir gan ohebyddion y lobi. Yn ôl ei chefnogwyr, cipolwg craff o fywyd pob dydd San Steffan yw'r sgetsh, sy'n gwneud gwleidyddiaeth yn hygyrch ac yn hwylus i'r cyhoedd,[4] ac yn beirniadu'r Senedd pan bo angen.[5]
Ysgrifennir sgetshis mewn arddull ddigrif,[6] yn aml llawn trosiadau, jôcs, cyfeiriadau hanesyddol a diwylliannol, a sylwadau ffraeth gan greu erthygl sy'n ceisio difyrru cymaint ag y mae'n hysbysu. Canolbwyntia'r ysgrifennwr sgetshis ar elfennau achlysurol yn hytrach na'r ffeithiau pwysicaf, er y dylai'r disgrifiad o'r hyn a ddigwyddodd fod yn gywir.[7] Tra bo newyddiaduraeth blaen yn egluro'r hyn a ddywedir, mae'r sgetsh yn esbonio sut y dywedwyd, a'r ymateb.[8] Mae'n trin Aelodau Seneddol fel cymeriadau mewn drama, ffars yn aml, yn theatr y Senedd. Yn ôl y newyddiadurwraig Annabel Crabb, mae sgetsh wleidyddol yn debyg i gartŵn gwleidyddol gan ei bod yn sylwi ar nodwedd fechan ac yn ei gwneud yn amlwg ac yn ddoniol, er enghraifft sgetshis Matthew Parris yn The Times oedd yn disgrifio John Redwood fel Vulcan o Star Trek.[4] Er bod y cyfrwng hwn yn enghraifft o newyddiaduraeth farn, ac yn tueddu i adlewyrchu y farn sydd gan dudalen olygyddol ei bapur, mae'r ysgrifennwr sgetshis yn dychanu aelodau o bob plaid. Gellir ystyried yr ysgrifenwyr gorau, sy'n darlunio craidd y peth, yn cyfrannu mewn modd mympwyol at swyddogaeth warchodol y wasg i oruchwylio'r system wleidyddol.[7]
Yn nyddiau cynnar newyddiaduraeth wleidyddol yn Llundain, nid oedd gan newyddiadurwyr yr hawl i wrando ar drafodaethau'r Senedd. Bu rhaid i'r ysgrifenwyr sgetshis cyntaf ddibynnu ar glecs a sïon. Ysgrifennodd Samuel Johnson golofn yn The Gentleman's Magazine, a gofnododd drafodaethau "Senedd Lilliput",[4] ac yn aml cyhoeddodd areithiau gan wleidyddion oedd yn hollol ffug.[9] Ym 1803 caniatawyd newyddiadurwyr i fynychu'r siambr am y tro cyntaf,[4] ond parhaodd y cyfyngiadau cyfreithiol ar ddyfynnu union geiriau'r Aelodau Seneddol. Felly, rôl y gohebydd gwleidyddol oedd i ysgrifennu braslun o naws a chymeriad y Senedd y dydd hwnnw.[8]
Wrth i gyfyngiadau ar hawliau newyddiadurwyr lacio yn ystod y 19g, cyhoeddwyd llai o straeon amheus o'r Senedd ac roedd adroddiadau gwleidyddol yn aml yn gofnod di-lol o drafodaethau'r siambr. Parhaodd defnyddioldeb sgetshis, hyd yn oed yn yr oes ddarlledu, gan nad oedd microffonau i'w caniatau yn Nhŷ'r Cyffredin nes 1978.[8] Yn wyneb y posibilrwydd o ddarfodiad, gwelwyd adfywiad o'r sgetsh yn ail hanner yr 20g, yn bennaf o ganlyniad i Frank Johnson, ysgrifennwr sgetshis y Daily Telegraph o 1972 hyd 1979 a ddatblygodd y sgetsh wleidyddol fodern.[10]
Mae'r traddodiad wedi parhau i'r unfed ganrif ar hugain ym Mhrydain, ac i raddau yn Awstralia. Mae'n debyg bod "theatr" y sesiynau holi yn system seneddol San Steffan yn galluogi crefft y sgetsh wleidyddol; ni cheir sgetshis gwleidyddol ym mhapurau newydd yr Unol Daleithiau.[4] Mae rhai'n pryderu bydd y blogosffer yn disodli crefft yr ysgrifennwr sgetshis wrth i nifer o hen agweddau'r wasg newyddion ddiflannu, ond mae nifer o ysgrifenwyr sgetshis yn fodlon bydd eu gwaith yn goroesi.[8] Heddiw, mae The Guardian, The Daily Telegraph, The Times, The Independent, a'r Daily Mail i gyd yn cyhoeddi sgetsh wleidyddol yn ddyddiol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.