![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/de/Severo_Sarduy.jpg/640px-Severo_Sarduy.jpg&w=640&q=50)
Severo Sarduy
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Giwba yn yr iaith Sbaeneg oedd Severo Sarduy (25 Chwefror 1937 – 8 Mehefin 1993).
Severo Sarduy | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Chwefror 1937 ![]() Camagüey ![]() |
Bu farw | 8 Mehefin 1993 ![]() o AIDS related disease ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ciwba, Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, dramodydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr ![]() |
Partner | François Wahl ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor ![]() |
Ganwyd yn Camagüey, Ciwba, i deulu dosbarth-gweithiol o dras Sbaenaidd, Affricanaidd, a Tsieineaidd. Astudiodd feddygaeth yn La Habana yng nghanol y 1950au. Yno daeth yn gyfarwydd â llenorion megis José Rodríguez Feo a José Lezama Lima. Cyhoeddodd Sarduy ei gerddi cyntaf yn y cylchgrawn Ciclón.[1]
Yn sgil Chwyldro Ciwba yn 1959, danfonwyd Sarduy i Ffrainc gan y llywodraeth yn 1960 i astudio celf yn yr École du Louvre. Wedi i'w ysgoloriaeth ddod i ben, penderfynodd Sarduy beidio â dychwelyd i Giwba. Teimlodd yn ddieithr yn sgil sensoriaeth gan lywodraeth Fidel Castro ac erledigaeth yn erbyn dynion hoyw yng Nghiwba, a ni dychwelodd i'w famwlad hyd ei oes. Ym Mharis daeth Sarduy yn gysylltiedig â Tel Quel, cyfnodolyn a hyrwyddai adeileddaeth ac ysgrifennu arbrofol. Roedd hefyd yn ysgrifennu i Mundo Nuevo, cylchgrawn llenyddol Sbaeneg a gyfarwyddwyd gan Emir Rodríguez Monegal.[1]
Ymhlith ei lyfrau mae'r nofelau Gestos (1963), De donde son los cantantes (1967), Cobra (1972), a Maitreya (1978), a'r casgliad o frasluniau llenyddol El Cristo de la rue Jacob (1987).
Bu farw ym Mharis o AIDS yn 56 oed.