From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae seren niwtron yn weddilion seren sydd wedi dymchwel oherwydd disgyrchiant, a'i maint yn fychan a dwys ac mae wedi'i gwneud bron yn gyfangwbl o niwtronau sy'n fân ronynnau isatomig. Mae'n niwclews fawr iawn ac yn cael ei dal at ei gilydd gan ddisgyrchiant.
Mae ganddi radiws bychan iawn ond mae ei màs yn llawer mwy na màs yr Haul a'i gwres yn uchel. Caiff ei hatal rhag lleihau'n rhagor gan wasgedd cwantwm (quantum degeneracy pressure) drwy'r ffenomenwm a elwir yn "Ataliad Pauli", sy'n mynnu na all unrhyw ddau niwtron (neu unrhyw fân ronyn ffermionig arall) fod yn yr un lle ar yr un pryd.
Mae màs cyfartalog seren niwtron rhwng 1.4 a 3.2 màs solar[1][2][3], gyda radiws o oddeutu 12 km.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.