From Wikipedia, the free encyclopedia
Hylif organig yw semen, sy'n cynnwys sberm fel arfer. Fe'i secretir gan organau atgenhedlu anifeiliaid gwrywaidd neu ddeurywiol, er mwyn ffrwythloni wygelloedd benywaidd. Alldafliad yw'r enw ar yr hyn sy'n digwydd wrth i semen adael y corff.
Enghraifft o'r canlynol | hylifau corfforol, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | secretiad, endid anatomegol arbennig |
Gwneuthurwr | Prostad |
Cynnyrch | anifail, mamal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae semen yn cynnwys sberm (sy'n dod o'r ceilliau) a phlasma semenaidd (a gynhyrchir yn y fesiglau semenaidd, y chwarren brostad, a chwarrennau Cowper.
Dyma cyfansoddiad a tharddiad semen:
Chwarren | % brasgywir | Disgrifiad |
Ceilliau | 2-5%[1] | Rhyddheir oddeutu 200- i 500-miliwn cell sberm ymhob alldafliad. |
Fesigl Semenaidd | 65-75% | asidau amino, sitrad, ensymau, flafinau, ffrwctos (prif ffynhonnell ynni'r celloedd sberm), ffosfforylcholin, prostaglandinau (sy'n atal adwaith imiwnol yn y corff benywaidd), proteinau, fitamin C |
Chwarren brostad | 25-30% | ffosffatas asidig, sitrad, ffibrinolysin, antigen prostad-benodol, ensym proteolytig, zinc |
Chwarren Cowper | < 1% | galactos, mwcws (hyrwyddo mudiant y celloedd sberm yn y wain a cheg y groth. Cyfrannu at wead jelïaidd semen.), cyn-alldafliad, asid sialig |
Disgrifiodd adroddiad Mudiad Iechyd y Byd semen dynol normal, fel yr hyn sydd â chyfaint o 2 ml neu fwy, pH o 7.2 i 8.0, crynodiad sberm o 20x106 cell sberm/ml neu'n uwch, 40x106 cell sberm neu fwy ymhob alldafliad, symudiad am ymlaen gyda 50% or celloedd sberm, a symudiad chwim gan 25% ohonynt.[2] Achos bod semen yn alcalïaidd (gwrthasid), gall rhyw geneuol helpu yn erbyn diffyg traul.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.