From Wikipedia, the free encyclopedia
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o'r Almaen yw Sebastian Vettel (ganed 3 Gorffennaf 1987).[1]
Sebastian Vettel | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1987 Heppenheim (Bergstraße) |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym, motorsports competitor |
Taldra | 176 centimetr |
Pwysau | 62 cilogram |
Gwobr/au | German Sportspersonality of the Year, Silbernes Lorbeerblatt |
Gwefan | http://www.sebastianvettel.de/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Red Bull Racing, Scuderia Ferrari, BMW Sauber, Scuderia Toro Rosso, Aston Martin Racing |
Gwlad chwaraeon | yr Almaen |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Heppenheim. Ar hyn o bryd mae'n gyrru i dîm Ferrari. Mae ei gontract presennol yn rhedeg hyd o leia diwedd 2017.[2] Mae Vettel wedi bod yn Bencampwr Byd Fformiwla Un bedwar gwaith, ar ôl ennill y bencampwriaeth rhwng 2010 a 2013 gyda thîm Red Bull Racing.[3] Mae'n cael ei ystyried fel un o'r gyrwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes Fformiwla Un.[4][5][6][7]
Yn ei flwyddyn cyntaf yn gyrru Red Bull yn 2009, gorffennodd Vettel y tymor fel y gyrrwr ieuengaf erioed i fod yn ail orau ym Mhencampwriaeth Gyrwyr y Byd. Y flwyddyn ganlynol, aeth ymlaen i fod y gyrrwr ieuengaf erioed i ennill Pencampwriaeth Gyrwyr y Byd yn 23 mlwydd oed. Yn yr un flwyddyn bu'n helpu Red Bull i ennill Pencampwriaeth Adeiladwyr Byd cyntaf y tîm. Dilynodd ei bencampwriaeth cyntaf gyda thri o deitlau mwy, gan ddod yn bencampwr ieuengaf yn y byd i fod yn bencampwr dwbl, triphlyg a pedwarplyg yn Fformiwla Un.[8] Gadawodd Vettel Red Bull Racing a daeth ei gysylltiad hir-dymor i ben gyda'r cwmni ar ôl tymor 2014 a llofnododd gytundeb gyda Ferrari ar gyfer 2015, ar ôl gweithredu'r cymal i derfynu ei gontract Red Bull yn gynnar.[9]
Mae Vettel mae wedi dal niferus o recordiau "ieuengaf" eraill yn Fformiwla Un, yn eu plith: y gyrrwr ieuengaf i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer swyddogol o Grand Prix (tan Max Verstappen yn y Grand Prix 2014 Japaneaidd), i sgorio pwyntiau pencampwriaeth (tan Daniil Kvyat yn Grand Prix 2014 Awstralia), i arwain mewn ras, i sicrhau'r y safle cyntaf[10] ac i ennill ras.[11] Yn 2016 roedd'n e'n dal y record am ennill y mwyaf o bwyntiau yn ei yrfa, gan drechu Fernando Alonso yn Grand Prix Eidal 2015. mae e hefyd yn bedwerydd ymysg y rhestr o enillwyr ras gorau erioed.[12]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.