![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/74/Lord_Coe_-_World_Economic_Forum_Annual_Meeting_2012_cropped.jpg/640px-Lord_Coe_-_World_Economic_Forum_Annual_Meeting_2012_cropped.jpg&w=640&q=50)
Sebastian Coe
athletwr a gwleidydd Prydeinig (1956- ) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn-athletwr Seisnig a gwleidydd Ceidwadol yw Sebastian Newbold Coe, Baron Coe, KBE (ganed 29 Medi 1956), a adnabyddir fel Seb Coe.[1] Roedd Coe yn rhedwr pellter canol, enillodd bedwar medal Olympaidd, gan gynnwys yr aur yn ras 1500 metr Gemau Olympaidd yr Haf 1980 ac 1984, gan osod wyth record y byd tu allan a tri dan do. Bu hefyd yn aelod o dîm ras gyfnewid a dorrodd record y byd. Domineiddwyd rhedeg pellter canol yr 1980au gan y gystadleuaeth rhyngddo ef a'i gyd-athletwyr Steve Ovett a Steve Cram.[2]
Sebastian Coe | |
---|---|
![]() | |
Llais | Sebastian Coe - Desert Island Discs - 13 December 2009.flac ![]() |
Ganwyd | 29 Medi 1956 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, rhedwr pellter canol, hunangofiannydd, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd ![]() |
Swydd | World Athletics President, London Organising Committee of the Olympic and Paralympic Games, President of the Olympic Organizing Committee, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Taldra | 176 centimetr ![]() |
Pwysau | 54 cilogram ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | Peter Coe ![]() |
Mam | Tina Angela Lall ![]() |
Priod | Nicola Elliott, Carole Smith ![]() |
Plant | Madeleine Rose Coe, Harry Sebastian Newbold Coe, Peter Henry Christopher Coe, Alice India Violet Coe ![]() |
Gwobr/au | KBE, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Olympic Order, Bislett medal, L'Équipe Champion of Champions, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC ![]() |
Chwaraeon |
Wedi ymddeol o chwaraeon, daeth Coe yn Aelod Seneddol Ceidwadol o 1992 hyd 1997, gan ddod yn arglwydd am oes yn 2000. Ef oedd yn arwain y cais dros Lundain i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2012, ac wedi i'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wobrwyo Llundain gyda'r Gemau, daeth Coe yn gadeirydd ar Bwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain. Yn 2007, etholwyd yn is-lywydd Cymdeithas Ryngwladol Ffederasiynau Athletau, gan gael ei ail-ethol am dymor pedair blynedd arall ar 25 Awst 2011.[3]