Math o bryf llwyd a ddarganfyddir yn nhirfwrdd Atherton, gogledd orllewin Queensland, Awstralia ydy Scaptia beyonceae.[1] Fe’i darganfyddwyd ym 1981 ond ni chafodd y pryf ei ddisgrifio’n wyddonol tan y flwyddyn 2011. Enwyd y pryf ar ôl y gantores a’r actores o Americanwraig Beyoncé Knowles.[2][3]
Scaptia beyonceae | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Diptera |
Teulu: | Tabanidae |
Genws: | Scaptia |
Rhywogaeth: | S. beyonceae |
Enw deuenwol | |
Scaptia beyonceae Lessard, 2011 | |
Disgrifiad
Mae gan y Scaptia beyonceae flaen euraid trawiadol i’w abdomen wedi’i ffurfio gan ddarn trwchus o wallt euraid a dyma sydd wedi ysbrydoli enw’r pryf.[4] Yn ôl Lessard, y gŵr a enwodd y pryf, er bod nifer o bobl yn ystyried y pryf llwyd yn boendod, mae’r pryf yn chwarae rhan bwysig iawn ym mheilliad planhigion. Mae’r pryfed hyn yn yfed neithdar o nifer o wahanol mathau o grevillea a myrtwydd.[3]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.