From Wikipedia, the free encyclopedia
Ci sbits sy'n tarddu o'r Ffindir ac sy'n gi cenedlaethol y wlad honno yw'r Sbits Ffinnaidd (Ffinneg: Suomenpystykorva). Datblygodd y brîd hwn er mwyn hela pob math o anifeiliaid, o gnofilod i eirth.[1] Mae'n cyfarth yn barhaol, gan wneud sŵn yn debyg i iodl, er mwyn tynnu sylw'r heliwr i leoliad y helfil. Defnyddir yn y Ffindir fel helgi hyd heddiw, ond mewn gwledydd eraill fe'i gedwir fel ci cymar.[2]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Gwlad | y Ffindir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ganddo daldra o 39 i 50 cm (15.5 i 20 modfedd) ac yn pwyso 11 i 13 kg (25 i 30 o bwysau). Mae ganddo wyneb sy'n debyg i lwynog, gyda thrwyn pigfain a chlustiau main, ac mae ei gynffon yn troi'n ôl dros ei gefn. Mae ganddo gôt drwchus a syth o liw coch euraidd, gydag ychydig o flew duon ar ei gefn a'i gynffon ac weithiau smotyn neu streipen wen ar y frest. Mae gan rai o'r gwrywod wrych o flew ar draws eu hysgwyddau. Mae gan y Sbits Ffinnaidd natur fywiog ac mae'n warchotgi addas.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.