From Wikipedia, the free encyclopedia
Sbaengi sy'n tarddu o Ffrainc yw'r Sbaengi Clustlaes[1] neu'r Papilon.[1] Bu'n gi arffed ers yr 16g, ac yn disgyn o sbaengwn bychain o Sbaen a'r Eidal. Cafodd ei ffafrio gan nifer o enwogion, gan gynnwys Madame de Pompadour a Marie Antoinette, ac ymddangosir mewn peintiadau gan Peter Paul Rubens, Antoine Watteau, François Boucher, a Jean-Honoré Fragonard. Daw'r enw Papilon o'r gair Ffrangeg am bili-pala, sy'n cyfeirio at ei glustiau sydd yn edrych fel adenydd pili-pala.
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Màs | 1.5 cilogram, 4.5 cilogram, 5 cilogram |
Gwlad | Gwlad Belg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci gosgeiddig a meingorff ydyw sydd yn sefyll hyd at 28 cm ac yn pwyso hyd at 5 kg. Mae ganddo gynffon bluog a chôt feddal o flew gwyn gyda smotiau duon neu frown.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.