Sally Ride
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffisegwraig a gofodwraig Americanaidd oedd Sally Kristen Ride (26 Mai 1951 – 23 Gorffennaf 2012). Ymunodd â NASA ym 1978, ac ym 1983 daeth yn yr Americanes gyntaf i mynd i'r gofod[1][2] a'r drydedd ddynes i mynd i'r gofod, ar ôl y Sofietiaid Valentina Tereshkova ym 1963 a Svetlana Savitskaya ym 1982. Hi yw'r ddinesydd Americanaidd ieuangaf i mynd i'r gofod: roedd yn 32 mlwydd pan aeth ar wennol ofod y Challenger.[3]
Sally Ride | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mai 1951 Los Angeles |
Bu farw | 23 Gorffennaf 2012 La Jolla |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd, gofodwr, astroffisegydd, ysgrifennwr, academydd, awdur plant |
Cyflogwr |
|
Priod | Steven Hawley |
Partner | Tam O'Shaughnessy |
Gwobr/au | Medal Gofodwyr NASA, Cymrawd Cymdeithas Ffiseg America, Gwobr Theodore Roosevelt, Gwobr Harmon, Medal Rhyddid yr Arlywydd, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Texas, Gwobr Ryngwladol Menywod am Hedfan, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Neuadd Enwogion California, Gwobr 'Hall of Fame' i Ofodwyr UDA, Science Writing Award, International Space Hall of Fame |
Gadawodd NASA ym 1987 i weithio yn y Canolfan dros Ddiogelwch Rhyngwladol a Rheoli Arfau ym Mhrifysgol Stanford. Sefydlodd y cwmni Sally Ride Science yn 2001 i hybu wyddoniaeth i blant ysgol, yn enwedig merched.[4][5]
Priododd Ride y gofodwr Steve Hawley ym 1982, ac ysgarant ym 1987.[6] O 1985 hyd ei marwolaeth, cymhares Ride oedd Tam E. O'Shaughnessy. Datgelwyd natur eu perthynas wedi i Ride farw.[7][8] Bu farw Ride o ganser y pancreas.[9][10][11]