![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/15/R%25C3%25B3mulo_Gallegos.jpg/640px-R%25C3%25B3mulo_Gallegos.jpg&w=640&q=50)
Rómulo Gallegos
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd Sbaeneg a gwleidydd o Feneswela oedd Rómulo Gallegos Freire (2 Awst 1884 – 5 Ebrill 1969) sy'n nodedig am ei nofel Doña Bárbara (1929) ac am ei gyfnod yn Arlywydd Feneswela yn 1948.
Rómulo Gallegos | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Awst 1884 ![]() Caracas ![]() |
Bu farw | 7 Ebrill 1969, 5 Ebrill 1969 ![]() Caracas ![]() |
Dinasyddiaeth | Feneswela ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd, newyddiadurwr ![]() |
Swydd | senator for life, member of the Chamber of Deputies of Venezuela, President of Venezuela ![]() |
Arddull | nofel ![]() |
Plaid Wleidyddol | Democratic Action ![]() |
Gwobr/au | Y Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganwyd Gallegos yn Caracas. Yn 1909 sefydlodd gylchgrawn o'r enw La Alborada. Gweithiodd yn athro ysgol uwchradd yn y 1920au.[1]
Enillodd gymeradwyaeth ryngwladol yn sgil cyhoeddi Doña Bárbara, a ystyrir yn glasur yn llên America Ladin. Mae ei weithiau yn portreadu cymdeithas a diwylliant gwerin yng nglaswelltiroedd gwastad y wlad, a'r gwrthdaro rhwng anwaredd a gwareiddiad. Ymhlith ei nofelau eraill mae Cantaclaro (1934), Canaima (1935), Pobre negro (1937), El forastero (1942), Sobre la misma tierra (1943), La rebelión, y otros cuentos (1947), a La brizna de paja en el viento (1952).
Aeth Gallegos i Sbaen yn alltud o lywodraeth yr Arlywydd Juan Vicente Gómez yn y cyfnod 1931–35. Dychwelodd i Feneswela ac yn 1936 cychwynnodd Gallegos ar ei yrfa wleidyddol. Gwasanaethodd yn Gyngreswr, yn Faer Caracas, ac yn weinidog addysg cyn iddo gael ei ethol yn arlywydd y wlad yn 1947. Dechreuodd ei arlywyddiaeth yn Chwefror 1948, a fe'i disodlwyd wedi naw mis mewn coup milwrol, a chafodd ei alltudio i Fecsico. Dychwelodd i Feneswela yn 1958, a fe'i etholwyd yn seneddwr am oes. Bu farw yn Caracas yn 84 oed.[2]