Ráth Chairn
Pentref a Gaeltacht yn Swydd Meath sefydwyd yn yr 1930 gan bobl Conomara / From Wikipedia, the free encyclopedia
Trefgordd a Gaeltacht newydd yw Ráth Cairn (prin yr arddelir y sillafiad Saesneg Rathcairn bellach)[1] a leolir yn Swydd an Mhí, ger Athboy a rhyw 55km i'r gogledd ddwyrain o Ddulyn.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | anheddiad dynol, Gaeltacht |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Meath |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Uwch y môr | 61 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 53.6108°N 6.8632°W |
Cau
Prynodd Comisiwn Tir Iwerddon diroedd yn yr ardal ac yn y 1930au, wedi’u cydio gan dlodi, trodd pobl Gwyddeleg eu hiaith o ardal Conamara i Ráth Cairn. Cynllun Saorstát Éireann (Gwladwriaeth Rydd Iwerddon) oedd lleddfu tlodi a symud siaradwyr brodorol Gwyddeleg i’r gwastadeddau, lle byddai mwy o gnydau i’w cynaeafu o’r tir.