Sefydliad ac elusen Brydeinig dros wella hawliau ac ansawdd bywyd pobl â nam gweld neu'n ddall From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Royal National Institute of Blind People a adnebir hefyd yn Gymraeg fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (yn fwy cyffredin ar lafar wrth y talfyriad Saesneg wreiddiol, RNIB) gyda'i phencadlys yn Llundain ac yn elusen ar gyfer pobl ddall, rhannol ddall a nam ar y golwg.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad elusennol, sefydliad, disability rights organization |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1868 |
Aelod o'r canlynol | DAISY Consortium, International Federation of Library Associations and Institutions |
Gweithwyr | 1,412, 1,670, 1,802, 2,083, 2,335 |
Pencadlys | Judd Street, Great Portland Street |
Rhanbarth | Llundain |
Gwefan | https://www.rnib.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r sefydliad hwn yn darparu gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer materol neu anfaterol ym maes hygyrchedd i'r rhai â nam ar eu golwg.[1] Mae'r sefydliad wedi bod drwy sawl man newid i'w henw ers ei sefydlu yn 1868.
Sefydlwyd yr RNIB ei sefydlu gan Thomas Rhodes Armitage, meddyg oedd â phroblemau golwg.
Ym 1868, sefydlodd Armitage fudiad o'r enw y British and Foreign Society for Improving Embossed Literature for the Blind.[2] Daeth hon yn ddiweddarach yn British and Foreign Blind Association.[2]Ym 1875 daeth y Frenhines Fictoria yn noddwr cyntaf y mudiad.[2]
Derbyniodd y sefydliad Siarter Brenhinol ym 1948, a newidiodd ei enw i Royal National Institute for the Blind (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion) ym 1953.[2] Yn 2002, cyflwynwyd aelodaeth RNIB a newidiwyd enw'r sefydliad i Royal National Institute of the Blind.[2] Ym mis Mehefin 2007 newidiodd y sefydliad ei enw eto, i Royal National Institute of Blind People.[2]
Mae gwestai sy’n eiddo i RNIB yn y DU wedi’u haddasu ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu golwg gan gynnwys The Century Hotel yn Blackpool ond cafodd y rhain eu cau neu eu gwerthu oherwydd costau rhedeg gormodol. Perchnogion hefyd oedd America Lodge yn Torquay, Dyfnaint a oedd yn ganolfan adsefydlu. Mae America Lodge bellach yn eiddo preifat ac wedi'i drawsnewid yn fflatiau.
Mae'r RNIB yn sefydliad Brydeinig gyda changhennau a gwasanaethau ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys Gogledd Iwerddon.[2] Mae pencadlys yr elusen yn Llundai. Noddwr RNIB oedd y Frenhines Elizabeth II, gellir disgwyl i'r mab, Charles III, dilyn yn ei ôl traed.
Ym mis Hydref 2008, cytunodd RNIB ac Action for Blind People mewn egwyddor i gyfuno rhai gwasanaethau ledled Lloegr. Dechreuodd y trefniant newydd ym mis Ebrill 2009, gan arwain at Action for Blind People yn dod yn Elusen Gyswllt i RNIB.[3]
Cefnogir gwaith RNIB gan fwy na 3,000 o wirfoddolwyr ledled y DU.[4]
Ceir strwthur Gymreig o fewn y corff Brydeinig (fel sydd i'r Alban a Gogledd Iwerddon) gyda swyddfa yng Nghaerdydd. Yn ôl y wefan mae oddeutu 110,000 o bobl yng Nghymru sy'n diodded o ddallineb neu anhawster gweld. Mae dros 4,000 o bobl sydd wedi eu cofrestru'n ddall neu rhanol dall Cymru yn mewn gwaith cyflogedig.[5]
Ceir hefyd gynllun iaith Gymraeg gan y sefydliad sy'n cydnabod bod yna bobl ddall sy'n siarad Cymraeg yn naturiol ac sy'n anelu i ddiwallu eu anghenion.[6]
Yr RNIB yw'r prif fudiad ar gyfer pobl ag anabledd gweledol yng Nghymru, ond ceir rhai eraill. Yn eu mysg mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru sydd â phencadlys ym Mangor[7] ac sydd wedi gwneud gwaith pwysig mewn sawl maes gan gynnwys darparu llyfrau llafar i bobl eu mwynhau. Mae Llyfrau Llafar Cymru a leolir yng Nghaerfyrddin hefyd yn gefn i'r gymuned ddall.
Rhoddir yr RNIB fel gweithgareddau: Atal colli golwg y gellir ei osgoi, cefnogaeth a gwybodaeth i bobl â nam ar eu golwg, gofal mewn cartrefi arbenigol neu mewn ysgolion, darparu cynhyrchion sy'n hyrwyddo hygyrchedd.
Am bob punt a roddir, mae RNIB yn gwario 87c yn uniongyrchol ar helpu pobl ddall a rhannol ddall, 11c ar godi mwy o arian, a 2c ar weinyddu.[8] Mae RNIB yn trefnu digwyddiadau codi arian yn y DU a thramor, yn ogystal â rafflau, cynlluniau ailgylchu, rhoddion cymynroddion, codi arian ar-lein a phartneriaethau corfforaethol.[9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.