Bardd, prif lenor Galisia From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Rosalía de Castro (24 Chwefror 1837 – 15 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd.
Rosalía de Castro | |
---|---|
Ganwyd | María Rosalía Rita Expósito 23 Chwefror 1837 Conxo, Santiago de Compostela |
Bu farw | 22 Gorffennaf 1885 A Matanza |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, awdur storiau byrion |
Adnabyddus am | Cantares gallegos, Follas novas, Contos da miña terra, La flor, En las orillas del Sar, Q5966934, O cabaleiro das botas azuis, Lieders |
Arddull | barddoniaeth |
Mudiad | Rexurdimento |
Tad | José Martínez Viojo |
Mam | María Teresa da Cruz Castro |
Priod | Manuel Murguía |
Plant | Ovidio Murguía de Castro, Alejandra Murguía, Aura Martínez-Murguía de Castro, Gala Murguía de Castro, Amara Murguía de Castro |
Gwobr/au | Galician Literature Day |
Gwefan | http://rosalia.gal/ |
llofnod | |
Ysgrifennodd yn Galego (Galisieg) ar adeg pan roedd yr iaith wedi'i gormesu ac ond wedi'i ystyri'n dafodiaith y werin ddi-addysg.[1][2]
Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia.
Roedd Follas novas (Dail newydd), 1880, ei hail gasgliad yn y Galisieg a'r olaf.[3] Ystyrir y gyfrol hon yn glasur o fewn llenyddiaeth Galisiaidd. Dyma hefyd uchafbwynt gyrfa Castro, gan ei fod yn cynrychioli'r cyfnod rhwng Cantares gallegos a'i nofel radical En las orillas del Sar (1884) a sgwennwyd mewn Sbaeneg. Mae rhan olaf Follas novas am ferched a adawyd yng Ngalisia, wedi i'w gwŷr eu gadael i chwilio am waith.
Priododd Manuel Murguía (1833–1923), yn un o brif ffigyrau y Rexurdimento (adfywiad) – mudiad llenyddol rhamantaidd i hybu llenyddiaeth a'r iaith Galego. Cafodd y cwpl 7 o blant.
Roedd bywyd Castro wedi'i effeithio gan dristwch a thlodi. Gwrthwynebodd gamddefnydd awdurdod ac roedd yn gefnogwr brwd o hawliau merched.[4]
Mae ei gwaith yn cyfleu cryfder enaid pobl werin Galisia – eu llawenydd, doethineb a thraddodiadau, eu dicter at ormes Sbaen, a'u tristwch yn wyneb tlodi ac alltudio i dde America. Mae ei gwaith wedi nodi gan saudade (hiraeth).[5]
Mae ei gwaith wedi'i gyffeithiau i nifer fawr o ieithoedd ac mae ei henw i weld ar enwau parciau, strydoedd, ysgolion a busnesau fel caffis a gwestai[6][7]. Mae ei llun wedi ymddangos ar stampiau ac ar hen arian Sbaen y peseta.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.