Rosa May Billinghurst
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist o Loegr oedd Rosa Mai Billinghurst (31 Mai 1875 - 29 Gorffennaf 1953) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched a swffragét. Ei llysenw oedd "cripple suffragette", gan ei bod wedi dioddef o polio ac yn teithio o le i le ar feic tair olwyn.[1]
Rosa May Billinghurst | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1875 Lewisham |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1953 Twickenham |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét |
Fe'i ganed yn Lewisham ar 31 Mai 1875 yr ail o naw o blant i Henry Farncombe Billinghurst a Rosa Ann (Brinsmead) Billinghurst. Daeth ei mam o deulu a oedd yn cynhyrchu pianos ac roedd ei thad yn fanciwr.[2] [1][3]
Fel plentyn goroesodd polio ac ni allai gerdded. Roedd hi'n defnyddio naill ai baglau neu feic dair olwyn wedi'i addasu.[3] Daeth yn weithgar mewn gwaith cymdeithasol mewn tloty yn Greenwich, Llundain, gan ddysgu mewn Ysgol Sul ac ymuno â grŵp Dirwest.[4]