![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a9/Robin_Hood_Memorial.jpg/640px-Robin_Hood_Memorial.jpg&w=640&q=50)
Robin Hwd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Herwr chwedlonol yn llên gwerin Lloegr yw Robin Hwd[1][2] (Saesneg: Robin Hood). Mae'n destun nifer o faledi sy'n dyddio ers y 14g. Mae Robin a'i griw, ei "Lanciau Llon",[3] yn dwyn oddi ar y cyfoethog a'r pwerus er budd y tlawd. Mewn nifer o'r straeon, Marian Forwyn[4] yw ei gariad. Yn draddodiadol mae Robin Hwd a'i griw yn gwisgo dillad o liw gwyrdd Lincoln. Cysylltir y chwedl yn bennaf ag ardal Swydd Nottingham a Swydd Lincoln, yn enwedig Coedwig Sherwood, er roedd baledi cynnar wedi eu lleoli yn ne Swydd Efrog.[5] Mae dyddiadau honedig y straeon yn amrywio o deyrnasiad Rhisiart I (1189–99) i oes Edward II (1307–27).[6]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a9/Robin_Hood_Memorial.jpg/640px-Robin_Hood_Memorial.jpg)
Ceir sôn am Robin mewn nifer o ffynonellau ar draws Prydain, gan gynnwys The Vision of Piers Plowman (1377) gan William Langland, The Orygynale Cronykil of Scotland gan Andrew Wyntoun (tua 1420),[6] a chasgliad o ganeuon Cymraeg o'r 15g (llsgr. Peniarth 53).[2] Cyhoeddodd Wynkyn de Worde y casgliad cyntaf o faledi amdano tua 1489. Mae'n bosib yr oedd y chwedl yn seiliedig ar herwr go iawn o'r un enw. Yn ôl tybiaeth arall roedd y Robin Hwd go iawn yn Robert Fitzooth, Iarll Huntingdon.[6] Roedd Robin yn amddiffyn y tlawd ac yn twyllo a lladd y cyfoethog a swyddogion llwgr a digydwybod yr eglwys a'r llywodraeth. Mae'r elfen hon o'i chwedl yn adlewyrchu'r anfodlonrwydd ymysg y bobl gyffredin a arweiniodd at Wrthryfel y Werin ym 1381.[7]