Rick Astley
From Wikipedia, the free encyclopedia
Canwr a chyfansoddwr cerddoriaeth Saesneg yw Rick Astley (ganwyd 6 Chwefror 1966). Mae'n fwyaf enwog am ei gân o 1987, "Never Gonna Give You Up". Cyrhaeddodd y gân #1 mewn siartiau cerddoriaeth 25 gwlad gwahanol. Erbyn 1993, cafodd tua 40 miliwn o recordiau Astley eu gwerthu.[1] Wedi iddo ymddeol yn 1993, dychwelodd Astley nôl i'r byd enwogrwydd diolch i'r meme gwe poblogaidd "Rickrolling". Cafodd Astley ei enwi'r "Act Gorau Erioed" gan bleidleiswyr yr MTV Europe Music Awards yn 2008.[2]
Rick Astley | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1966 Newton-le-Willows |
Man preswyl | Llundain |
Label recordio | Sony Music, Stock, RCA Records, Polydor Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, cyflwynydd radio, cerddor, canwr |
Arddull | blue-eyed soul, cerddoriaeth ddawns, pop dawns, disgo, cerddoriaeth yr enaid |
Math o lais | lyric baritone |
Priod | Lene Bausager |
Gwefan | https://www.rickastley.co.uk |
Ganwyd Astley yn Glannau Merswy, Lloegr i deulu dosbarth canol. Ysgarodd ei rhieni pan yr oedd yn 5 mlwydd oed a chafodd Astley a'i tri siblingiaid eu magu gan eu tad. Dechreuodd Astley i ganu yn côr ei ysgol pan oedd yn 10 mlwydd oed ac yn ystod ei fywyd ysgol, perfformiodd Astley fel drymiwr mewn nifer o fandiau lleol.[3] Yn 1985 roedd Astley yn drymio i fand lleol FBI ond, wrth i prif ganwr y fand adael, penderfynnodd Astley i ganu yn ei le. Wrth berfformio un noson, cafodd Astley ei weld gan Pete Waterman a dechreuodd ei yrfa canu proffesiynol.