From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Richard Davies Garnons Williams (15 Mehefin 1856 – 25 Medi 1915)[1] yn chwarae rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru a chwaraeodd i glybiau Aberhonddu a Chasnewydd. Chwaraeodd Williams yng ngem rygbi'r undeb rhyngwladol gyntaf Cymru.
Richard Garnons Williams | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mehefin 1856 Llowes |
Bu farw | 25 Medi 1915 Loos-en-Gohelle |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, swyddog milwrol |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Clwb Rygbi Casnewydd |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Daeth yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig yn 1876 ac ymddeolodd o wasanaeth llawn yn 1892, ond parhaodd i wasanaethu fel gwirfoddolwr tan 1906. Ac yntau'n 58 oed ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ailymunodd a'r fyddin ac fe'i lladdwyd ar faes y gad yn 1915.
Ganwyd Williams yn 1856 yn Llowes, Sir Faesyfed, yn ail blentyn y Parchedig Garnons Williams o Abercamlais, Powys, a'i wraig Catherine Frances, merch Fenton Hort o Leopardstown, Dulyn, a chwaer Fenton John Anthony Hort. Addysgwyd Williams yn Ysgol Coleg Magdalen, Rhydychen, a chael ei baratoi ar gyfer y brifysgol trwy wersi preifat yn Wimbledon, Surrey. Yna aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, yn 1874.[2][3]
Wedi iddo gofrestru fel myfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, chwaraeodd Garnons Williams yn nhim rygbi Caergrawnt ond ni chafodd ei wobrwyo gyda "Blue".[4]
Yn 1881 cafodd Williams ei ddewis gan Richard Mullock i gynrychioli Cymru yn eu gem gyntaf fel tim cenedlaethol. Roedd y chwaraewyr wedi eu dewis i adlewyrchu lleoliad y clybiau a safon eu haddysg brifysgol yn hytrach na'u gallu ar y cae.[5] Er gwaethaf y dull anffodus o ddewis, prin y byddai unrhyw un wedi disgwyl cymaint o wahaniaeth yn y sgor, wrth i Loegr drechu Cymru gan sgorio 13 chais mewn gem un-ochrog. Hwn oedd unig ymddangosiad Williams dros Gymru,[1] gyda'r dewiswyr yn cyfnewid un ar ddeg o chwaraewyr ar gyfer yr ail gem.
Cymru [6]
Cwblhaodd Williams ei hyfforddiant fel swyddog yn y fyddin yn 1876 a chafodd ei ddyrchafu yn is-gapten ar 17 Ionawr 1877 ac yna'n gapten yn Chwefror 1885 gan wasanaethu gyda'r Ffiwsiliwyr Brenhinol (Catrawd Dinas Llundain).
Ar 10 Ionawr 1887, cafodd ei benodi'n ddirprwy (adjutant) yn 4ydd Bataliwn y gatrawd.[7] Ymddeolodd o wasanaeth llawn ar 4 Mai 1892.[8] Ar 8 Awst 1894 cafodd ei gomisiynu fel uwchgapten ym Mataliwn Gwirfoddol 1af (Sir Frycheiniog), Cyffinwyr De Cymru,[9] ac ar 1 Tachwedd yn Uwchgapten Brigad ym Mrigad De Cymru y Llu Gwirfoddol.[10] Ar 12 Gorffennaf 1899 cafodd ei anrhydeddu fel cyrnol is-gapten.[11] Ymddiswyddodd o'i gomisiwn fel gwirfoddolwr ar 26 Mai 1906, gan gadw ei safle gyda chaniatad i barhau i wisgo ei wisg.[12]
Ailymunodd a'r Fyddin Brydeinig yn fuan ar ôl dechrau'r Rhyfel Ewropeaidd gan ymuno â'i hen gatrawd ac ymuno â 12fed Bataliwn y Ffiwsiliwyr Brenhinol fel Cadridog ar 26 Medi 1914. Cafodd ei ddyrchafu'n gyrnol is-gapten dros dro a'i drosglwyddo yn ôl i Gyffinwyr De Cymru i arwain Bataliwn Sir Frycheiniog. ae'n debyg iddo ailymuno a 12fed Bataliwn y Ffiwsiliwyr Brenhinol yn fuan wedyn, ac fe'i lladdwyd ar faes y gad ar 25 Medi 1915 ym Mrwydr Loos. Mae ei enw wedi ei gofnodi ar y Gofeb i'r rhai a Gollwyd yn Loos. [13][14][15][16][17] Yn 59 oed, ef oedd yr hynaf o'r 13 o chwaraewyr Cymru a laddwyd yn y Rhyfel Mawr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.