Mae rhyw diogel yn golygu gweithgarwch rhywiol rhwng pobl sydd wedi cymryd camau rhagofalus er mwyn amddiffyn eu hunain yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fel HIV.[1] Rhyw anniogel yw gweithgarwch rhywiol heb gamau rhagofalus, heb ddefnyddio condom yn arbennig.
Daeth ymarferion rhyw diogel yn fwy amlwg yn yr 80au hwyr o ganlyniad i'r Epidemig HIV. Mae hyrwyddo rhyw diogel yn un o amcanion addysg rhyw.
Er gall rhai arferion rhyw diogel eu defnyddio fel modd o osgoi beichiogi (atal genhedlu), nid yw'r mwyafrif o'r ffurfiau yma o atal genhedlu yn amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Yn yr un modd, mae rhai ffurfiau o arferion rhyw diogel, megis dewis partner ac ymddygiad risg isel, yn ffurfiau anneffeithiol o atal genhedlu ond dylid eu hystyried mewn pob math o gyfathrach rhywiol er mwyn lleihau risg.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.