From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwrthdaro milwrol yn Libanus a gogledd Israel oedd Rhyfel Libanus 2006, a elwir hefyd yn Rhyfel Gorffennaf[18] yn Libanus ac Ail Ryfel Libanus[19] yn Israel. Mae'n rhan o frwydr ehangach rhwng yr Israeliaid a'i chymdogion, sef yr hyn a elwir yn wrthdaro Israel-Libanus sydd yntau'n rhan o wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Y brif frwydrwyr oedd lluoedd parafilwrol Hizballah a lluoedd arfog Israel. Dechreuodd y gwrthdaro ar 12 Gorffennaf 2006, a pharhaodd hyd at gadoediad gan y Cenhedloedd Unedig ar 14 Awst 2006, er iddo ddod i ben yn ffurfiol ar 8 Medi pan gododd Israel ei blocâd llyngesol ar Libanus.
Rhyfel Libanus 2006 | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o'r gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd a'r gwrthdaro Israelaidd-Libanaidd | |||||||
Mwg dros Tyre yn dilyn cyrch Israelaidd | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Hizballah Amal[1] PGL[2] FfPRhP-AC[3] |
Israel | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Hassan Nasrallah |
Dan Halutz Moshe Kaplinsky[4] Udi Adam | ||||||
Nerth | |||||||
600-1000 o frwydrwyr gweithredol 3000-10 000 o filwyr wrth gefn[5] |
Hyd at 10 000 o luoedd tirol. 30 000 yn y dyddiau olaf. (+ Awyrlu Israel & Chorfflu Morol Israel)[6][7] | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
Milisia Hizballah: Marw: |
Lluoedd Amddiffyn Israel: Marw: 119[13] | ||||||
Dinasyddion Libanaidd: 850[14]-1191[15] wedi marw 4409 wedi'u hanafu[15] Dinasyddion Israelaidd: |
Dechreuodd y gwrthdaro ar ôl i Hizballah saethu rocedi Katyusha a morterau tuag at bentrefi Israelaidd ar y goror rhwng Israel a Libanus,[20] i ddargyfeirio sylw o uned Hizballah arall a gipiodd dau filwr Israelaidd, a lladd tri arall. Dywedodd Hizballah iddynt gipio'r milwyr y tu fewn i Libanus. Ceisiodd lluoedd Israel achub y milwyr ond roeddent yn aflwyddiannus, a chollant bump arall yn yr ymgais. Anafwyd pum milwr a phum sifiliad arall yn yr ymosodiadau. Ymatebodd Israel gyda chyrchoedd awyr a thân arfau trwm ar dargedau yn Libanus, a difrodwyd adeiladau Libanaidd gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Rafik Hariri a ddefnyddiodd Hizballah i fewnfudo arfau yn ôl awdurdodau Israel, cafwyd blocâd awyr a llyngesol,[21] a goresgynnwyd tir de Libanus. Yna lawnsiodd Hizballah mwy o rocedi i ogledd Israel a buont yn rhyfela'n herwfilwrol yn erbyn Lluoedd Amddiffyn Israel.[22][23]
Lladdwyd 44 o sifiliaid Israel a 1,191 o sifiliaid Libanus. Lladdwyd 121 o filwyr Israel a hyd at 700 o filwyr Hizbolah.[24]
Bu'r gwrthdaro yn gyfrifol am ddifrodi adeiladau Libanaidd yn ddifrifol, dadleolwyd 700 000-915 000 o Libaniaid,[25][26][27] a 300 000-500 000 o Israeliaid,[28][29][30] ac aflonyddu bywyd pob dydd ar draws Libanus a gogledd Israel. Hyd yn oed ar ôl y cadoediad, parhaodd llawer o Dde Libanus i fod yn annrhigiadwy oherwydd peryg bomiau clwstwr Israelaidd a oedd heb ffrwydro. Ar 1 Rhagfyr 2006, amcangyfrifwyd fod 200 000 o Libaniaid yn dal wedi'u dadleoli'n fewnol neu'n ffoaduriaid.[31]
Ar 11 Awst 2006, cytunwyd ar Benderfyniad 1701 y CU (sef cadoediad) yn unfrydol gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig fel ymgais i derfynu'r gwrthdaro. Bu'r penderfyniad, a gytunwyd arno gan lywodraethau Libanus ac Israel yn y diwrnodau dilynol, yn galw ar ddiarfogi Hizballah, encilio Israel o Libanus, ac i filwyr Libanus a llu dros dro y Cenhedloedd Unedig yn Libanus (UNIFIL) mwy o faint gael ei leoli yn ne Libanus. Dechreuodd byddin Libanus leoli milwyr yn ne Libanus ar 17 Awst 2006. Codwyd y blocâd ar 8 Medi 2006.[32] Ar 1 Hydref, 2006, enciliodd y mwyafrif o luoedd Israel o Libanus, er y bu i gynffon y fyddin barhau i feddiannu goror-bentref Ghajar[33] tan 3 Rhagfyr 2006.[34] Yn ystod yr amser ers cyflawniad Penderfyniad 1701 dywed llywodraeth Libanus a'r UNIFIL ni fyddent yn diarfogi Hizballah.[35][36][37]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.