rhestr Wicimedia From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr o'r 29 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Utah yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Mae 29 sir yn nhalaith Utah. Yn wreiddiol, sefydlwyd saith sir o dan Wladwriaeth dros dro Deseret ym 1849: Davis, Iron, Sanpete, Salt Lake, Tooele, Utah, a Weber. [2] Crëwyd Tiriogaeth Utah ym 1851 gyda'r cyfarfod deddfwrfa diriogaethol cyntaf rhwng 1851-1852. Ail-greodd y ddeddfwrfa gyntaf y siroedd gwreiddiol o Dalaith Deseret o dan gyfraith diriogaethol yn ogystal â sefydlu tair sir ychwanegol: Juab, Millard, a Washington. Sefydlwyd pob sir arall rhwng 1854 a 1894 gan Ddeddfwrfa Diriogaethol Utah o dan gyfraith diriogaethol ac eithrio'r ddwy sir ddiwethaf a ffurfiwyd, Daggett a Duchesne. Fe'u crëwyd trwy bleidlais boblogaidd a thrwy gyhoeddiad gan y llywodraethwr ar ôl i Utah ddod yn dalaith. [3] Roedd y Duchesne County presenol yn cynnwys gwarchodfa Indiaid a gafodd ei chreu ym 1861. Agorwyd y warchodfa i wladychwyr ym 1905 a chrëwyd y sir ym 1913. Oherwydd bod ffyrdd peryglus, tir mynyddig, a thywydd gwael yn atal teithio ar hyd llwybr uniongyrchol, bu’n rhaid i drigolion y 19eg ganrif yn Sir Daggett heddiw deithio 400 i 800 milltir (640 i 1,290 km) ar y goets a rheilffordd i gynnal busnes yn Vernal , sedd y Sir Uintah dim ond 50 milltir (80 km) i ffwrdd. Ym 1917, pleidleisiodd holl drigolion Uintah County i greu Daggett County. [4]
Yn ôl Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 2010, poblogaeth Utah oedd 2,763,885. Mae ychydig dros 75% o boblogaeth Utah wedi'i ganoli ar hyd pedair sir Wasatch Front, sef Salt Lake, Utah, Davis a Weber. Salt Lake County oedd y sir fwyaf yn y dalaith gyda phoblogaeth o 1,029,655, ac yna Utah County gyda phoblogaeth o 516,564, Davis County gyda 306,479 a Weber gyda 231,236. Daggett County oedd y sir lleiaf poblog gyda 1,059 o bobl. Y sir fwyaf o ran arwynebedd tir yw San Juan County gyda 7,821 milltir sgwâr (20,260 km2) a Davis County yw'r lleiaf gyda 304 milltir sgwâr (790 km2).
Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Utah yw 49, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 49XXX. Mae Beaver County yn rhannu'r cod 001 gyda nifer o siroedd eraill yn yr Unol Daleithiau megis Allegany County, Maryland ond o ragddodi cod talaith Utah, 49, i god Beaver County ceir 49001, cod unigryw i'r sir honno.
Sir |
Cod FIPS [5] | Sedd y Sir[3][6] | Sefydlu[3][6] | Tarddiad[3] | Etymoleg <[7][8] | Poblogaeth[9] | Maint[10] | Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Beaver County | 001 | Beaver | 1856 | Rhan o Iron County | Nifer yr afancod yn yr ardal | 6,710 | sq mi ( 6,708 km2) | 2,590|
Box Elder County | 003 | Brigham City | 1856 | Rhan o Weber County | Nifer y coed Masarnen dail ynn (Lladin: Acer negundo, Saesneg: Box Elder) yn yr ardal | 56,046 | sq mi ( 14,882 km2) | 5,746|
Cache County | 005 | Logan | 1857 | Rhan o Weber County | O'r gair Saesneg "Cache", sy'n golygu cuddstôr. Bu nifer o helwyr yn cudd-storio ffwr yn yr ardal. | 128,289 | sq mi ( 3,017 km2) | 1,165|
Carbon County | 007 | Price | 1894 | Rhan o Emery County | Carbon yw brif elfen glo, mae'r sir yn enwog am ei faes glo.[11] | 20,463 | sq mi ( 3,828 km2) | 1,478|
Daggett County | 009 | Manila | 1919 | Rhan o Uintah County | Er cof am Ellsworth Daggett (1810–1880), Syrfëwr Cyffredinol cyntaf Utah | 950 | sq mi ( 1,805 km2) | 697|
Davis County | 011 | Farmington | 1850 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret | Er cof am Daniel C. Davis (1804–1850), capten ar Gatrawd y Mormoniaid | 355,481 | sq mi ( 774 km2) | 299|
Duchesne County | 013 | Duchesne | 1913 | Rhan o Wasatch County | Ansicr. Mae awgrymiadau am darddiad tebygol yn cynnwys: gair yn iaith frodorol yr Ute am "ddyffryn tywyll"; safle rhyfel Ffrainc yn erbyn y brodorion Fort Duquesne; llygriad o enw personol pennaeth brodorion yr ardal; llygriad o enw trapiwr ffwr ac archwiliwr Ffrengig. | 19,938 | sq mi ( 8,394 km2) | 3,241|
Emery County | 015 | Castle Dale | 1880 | Rhan o Sanpete County[12] | Er anrhydedd i George W. Emery (1830–1909), Llywodraethwr tiriogaeth Utah 1875–1880 | 10,012 | sq mi ( 11,557 km2) | 4,462|
Garfield County | 017 | Panguitch | 1882 | Rhan o Iron County | Er anrhydedd i'r Arlywydd James A. Garfield (1831–1881) | 5,051 | sq mi ( 13,403 km2) | 5,175|
Grand County | 019 | Moab | 1890 | Rhan o Emery County | Afon Grand cyn enw Afon Colorado | 9,754 | sq mi ( 9,510 km2) | 3,672|
Iron County | 021 | Parowan | 1850 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret | Y mwynfeydd heuarn i'r gorllewin i Cedar City.[13] | 54,839 | sq mi ( 8,539 km2) | 3,297|
Juab County | 023 | Nephi | 1852 | Un o siroedd gwreiddiol Tiriogaeth Utah | Gair frodorol am "ddyffryn sychedig" | 12,017 | sq mi ( 8,785 km2) | 3,392|
Kane County | 025 | Kanab | 1864 | Rhan o Washington County | Er anrhydedd i Thomas L. Kane (1822–1883), Swyddog milwrol oedd yn gefnogol i wladychiad Utah gan y Mormoniaid | 7,886 | sq mi ( 10,334 km2) | 3,990|
Millard County | 027 | Fillmore | 1851 | Un o siroedd gwreiddiol Tiriogaeth Utah | Er anrhydedd i'r Arlywydd Millard Fillmore (1800–1874) | 13,188 | sq mi ( 17,021 km2) | 6,572|
Morgan County | 029 | Morgan | 1862 | Rhan o Davis County[14] | Er anrhydedd i Jedediah Morgan Grant (1816–1856), Apostol Mormonaidd | 12,124 | sq mi ( 1,577 km2) | 609|
Piute County | 031 | Junction | 1865 | Rhan o Beaver County | Cenedl frodorol y Piute a oedd yn arfer byw yn yr ardal | 1,479 | sq mi ( 1,963 km2) | 758|
Rich County | 033 | Randolph | 1864 | Rhan o Cache County | Er anrhydedd i Charles C. Rich (1809–1883), Apostol Mormonaidd | 2,483 | sq mi ( 2,665 km2) | 1,029|
Salt Lake County | 035 | Salt Lake City | 1849 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret | Ar ôl y Llyn Mawr Hallt, sy'n ffurfio rhan o'r sir | 1,160,437 | sq mi ( 1,922 km2) | 742|
San Juan County | 037 | Monticello | 1880 | Rhannau o Kane, Iron, a Piute counties | Ar ôl afon San Juan sy'n llifo trwy'r sir | 15,308 | sq mi ( 20,254 km2) | 7,820|
Sanpete County | 039 | Manti | 1849 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret | Ansicr, o bosib o enw pennaeth cenedl frodorol yr Ute o'r enw San Pitch | 30,939 | sq mi ( 4,118 km2) | 1,590|
Sevier County | 041 | Richfield | 1862 | Rhan o Sanpete County | Ar ôl Afon Sevier sy'n llifo trwy'r sir | 21,620 | sq mi ( 4,949 km2) | 1,911|
Summit County | 043 | Coalville | 1854 | Rhannau o Salt Lake a Green River county[15] | Ucheldiroedd y sir, sy'n cynnwys 39 o gopaon uchaf Utah | 42,145 | sq mi ( 4,848 km2) | 1,872|
Tooele County | 045 | Tooele | 1849 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret | Yn ansicr, naill ai ar ôl Tuilla pennaeth cenedl frodorol y Goshute neu'r planhigyn Tule sy'n tyfu yng nghorsydd y sir | 72,259 | sq mi ( 17,977 km2) | 6,941|
Uintah County | 047 | Vernal | 1880 | Rhan o Wasatch[16] | Llwyth Uintah o genedl frodorol yr Ute a arferai trigo yn yr ardal | 35,734 | sq mi ( 11,603 km2) | 4,480|
Utah County | 049 | Provo | 1849 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret | Yuta, ynganiad Sbaenig o enw cenedl frodorol yr Ute | 636,235 | sq mi ( 5,188 km2) | 2,003|
Wasatch County | 051 | Heber City | 1862 | Rhan o Utah a Sanpete | Gair brodorol am fwlch mewn mynydd | 34,091 | sq mi ( 3,046 km2) | 1,176|
Washington County | 053 | St. George | 1852 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Utah | Er cof am yr Arlywydd George Washington (1732–1799), | 177,556 | sq mi ( 6,283 km2) | 2,426|
Wayne County | 055 | Loa | 1892 | Rhan o Piute County | Wayne County, Tennessee[17] | 2,711 | sq mi ( 6,374 km2) | 2,461|
Weber County | 057 | Ogden | 1849 | Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret | Ar ôl Afon Weber sy'n llifo trwy'r sir | 260,213 | sq mi ( 1,492 km2) | 576
Bu deg sir yn Nhiriogaeth Utah a gafodd eu hamsugno gan daleithiau eraill neu siroedd eraill Utah.
Enw [3] | Sefydlu [3] | Diddymu [3] | Etymoleg [7] | Lleoliad presenol [3] |
---|---|---|---|---|
Carson County | 1854 | 1861 | Wedi'i henwi ar ôl Afon Carson, afon 150 milltir (240 km) yn Nevada a Chaliffornia sy'n tarddu o fynyddoedd Sierra Nevada | Nevada |
Cedar County | 1856 | 1862 | Wedi'i enwi ar gyfer y coed cedrwydd niferus sy'n tyfu yn yr ardal (sydd mewn gwirionedd yn goed meryw) | Utah County |
Desert County | 1852 | 1862 | Y gair Saesneg desert anialwch. Roedd llawer o anialdiroedd yn y sir | Box Elder County, Tooele County a Nevada |
Greasewood County | 1856 | 1862 | Ar ôl y planhigyn greasewood un o deulu y Sarcobatus Vermiculatus a oedd yn tyfu yn yr ardal | Box Elder County |
Green River County | 1852 | 1872 | Wedi'i enwi ar ôl yr Afon Green River, llednant 730 milltir (1,170 km) o Afon Colorado sy'n rhedeg trwy Wyoming, Colorado ac Utah | Cache, Weber, Morgan, Davis, Wasatch, Summit, Duchesne, Carbon, ac Utah a Thaleithiau Wyoming a Colorado |
Humboldt County | 1856 | 1861 | Cafodd ei henwi ar ôl Afon Humboldt | Nevada |
Malad County | 1856 | 1862 | Cafodd ei henwi ar ôl Afon Malad | Box Elder County |
Rio Virgin County | 1869 | 1872 | Cafodd ei henwi ar ôl Afon Virgin | Washington County, Nevada ac Arizona |
St. Mary's County | 1856 | 1861 | Cafodd ei henwi ar ôl Afon Mary | Nevada |
Shambip County | 1856 | 1862 | Llygriad o Goshute yr enw frodorol am Rush Lake | Tooele County |
Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.