Rhestr o Siroedd New Jersey
Rhestr Wicimedia From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhestr Wicimedia From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr o'r 21 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith New Jersey yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. New Jersey yw 34 , a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 34XXX. Mae Atlantic County yn rhannu'r cod 001 gyda nifer o siroedd eraill yn yr Unol Daleithiau megis Allegany County, Maryland ond o ragddodi cod talaith New Jersey, 34, i cod Atlantic County ceir 34001, cod unigryw i'r sir honno.
Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn y tabl isod yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]
Sir |
Cod FIPS [3] | Sedd sirol[4] | Dinas fwyaf | Sefydlu[4] | Tarddiad[5] | Etymoleg[6] | Dwyster (y mi²) | Poblogaeth[7] | Maint[4] | Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Atlantic County | 001 | Mays Landing | Galloway Township 37,349 | 1837 | Gloucester County | Cefnfor Iwerydd, sy'n ffurfio ffin ddwyreiniol y sir | 489.39 | 265,429 | sq mi ( 1,453 km2) | 561|
Bergen County | 003 | Hackensack | Hackensack 43,010 | 1683 | Un o 4 sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Bergen, anheddiad yn New Netherland (cyn drefedigaeth yr Iseldiroedd yn yr un ardal) | 3,868.02 | 936,692 | sq mi ( 606 km2) | 234|
Burlington County | 005 | Mount Holly | Evesham Township 45,538 | 1694 | Un o ddwy sir wreiddiol a grëwyd yng Ngorllewin Jersey | Yr hen enw am farchnad fewndirol ger Bridlington, Lloegr | 557.43 | 445,384 | sq mi ( 2,085 km2) | 805|
Camden County | 007 | Camden | Camden 77,344 | 1844 | Gloucester County | Charles Pratt, Iarll 1af Camden (1714–1794), cefnogwr Seisnig i'r gwladychwyr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America [8] | 2,313.77 | 507,078 | sq mi ( 575 km2) | 222|
Cape May County | 009 | Cape May Court House | Lower Township 22,844 | 1692 | Burlington County | Cornelius Jacobsen Mey, archwiliwr o'r Iseldiroedd o'r 17 ganrif, a fu'n archwilio ac yn arolygu Bae Delaware i'r de o'r sir | 381.43 | 92,560 | sq mi ( 660 km2) | 255|
Cumberland County | 011 | Bridgeton | Vineland 60,724 | 1748 | Salem County | Tywysog William, Dug Cumberland (1721–1765), ail fab Siôr II, brenin Prydain Fawr a'r buddugwr milwrol ym Mrwydr Culloden ym 1746 | 320.85 | 150,972 | sq mi ( 1,267 km2) | 489|
Essex County | 013 | Newark | Newark 277,140 | 1683 | Un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Swydd Essex Lloegr | 6,221.98 | 799,767 | sq mi ( 326 km2) | 126|
Gloucester County | 015 | Woodbury | Washington Township 48,559 | 1686 | Burlington County | Dinas Caerloyw, Lloegr | 887.04 | 291,408 | sq mi ( 842 km2) | 325|
Hudson County | 017 | Jersey City | Jersey City 247,597 | 1840 | Bergen County | Yr archwiliwr o Loegr Henry Hudson (bu f. 1611), a archwiliodd rannau o arfordir New Jersey | 13,495.02 | 676,061 | sq mi ( 122 km2) | 47|
Hunterdon County | 019 | Flemington | Raritan Township 21,936 | 1714 | Burlington County | Robert Hunter (1664–1734), Llywodraethwr Trefedigaethol New Jersey rhwng 1710 a 1720 | 298.49 | 124,714 | sq mi ( 1,114 km2) | 430|
Mercer County | 021 | Trenton | Hamilton Township 88,464 | 1838 | Burlington County, Hunterdon County, Middlesex County, a Somerset County | Hugh Mercer (1726-1777) Cadfridog yn y Fyddin Gyfandirol, a fu farw ym Mrwydr Princeton [9] | 1,621.74 | 369,811 | sq mi ( 585 km2) | 226|
Middlesex County | 023 | New Brunswick | Edison 99,967 | 1683 | Un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Swydd Middlesex, Lloegr | 2,604.05 | 829,685 | sq mi ( 805 km2) | 311|
Monmouth County | 025 | Freehold Borough | Middletown Township 66,522 | 1683 | Un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nwyrain Jersey | Sir Fynwy, Cymru | 1,335.55 | 621,354 | sq mi ( 1,222 km2) | 472|
Morris County | 027 | Morristown | Parsippany-Troy Hills 53,238 | 1739 | Hunterdon County | Y Cyrnol Lewis Morris (1671–1746), llywodraethwr trefedigaethol New Jersey ar adeg ffurfio'r sir [10] | 1,049.63 | 494,228 | sq mi ( 1,215 km2) | 469|
Ocean County | 029 | Toms River | Lakewood Township 92,843 | 1850 | Monmouth County a Burlington County | Cefnfor Iwerydd, sy'n ffurfio ffin ddwyreiniol New Jersey | 629.44 | 601,651 | sq mi ( 1,647 km2) | 636|
Passaic County | 031 | Paterson | Paterson 146,199 | 1837 | Bergen County ac Essex County | "Pasaeck", gair y llwyth frodorol Y Lenape, sy'n golygu "cwm" | 2,709.33 | 503,310 | sq mi ( 479 km2) | 185|
Salem County | 033 | Salem | Pennsville Township 13,332 | 1694 | Un o ddwy sir wreiddiol a grëwyd yng Ngorllewin Jersey | A O'r gair Hebraeg shalom (שׁלום) sy'n golygu "heddwch" | 195.51 | 62,607 | sq mi ( 875 km2) | 338|
Somerset County | 035 | Somerville | Franklin Township 62,300 | 1688 | Middlesex County | Gwlad yr Haf, Lloegr | 1,060.47 | 331,164 | sq mi ( 790 km2) | 305|
Sussex County | 037 | Newton | Vernon Township 23,867 | 1753 | Morris County | Swydd Sussex, Lloegr | 286.5 | 140,799 | sq mi ( 1,349 km2) | 521|
Union County | 039 | Elizabeth | Elizabeth 124,969 | 1857 | Essex County | Undeb yr Unol Daleithiau, a oedd yn cael ei fygwth gan yr anghydfod ynghylch caethwasiaeth | 5,208.73 | 558,067 | sq mi ( 267 km2) | 103|
Warren County | 041 | Belvidere | Phillipsburg 14,791 | 1824 | Sussex County | Y Cadfridog Joseph Warren (1741–1775), a bu farw ym Mrwydr Bunker Hill | 303.61 | 105,779 | sq mi ( 927 km2) | 358
Mae 21 sir yn New Jersey. Gyda'i gilydd mae'r siroedd hyn yn cynnwys 250 o fwrdeistrefi, 52 o ddinasoedd, 15 tref, 244 trefgordd, a 4 pentref. [11] Yn New Jersey, mae sir yn lefel lywodraeth leol rhwng y dalaith a'r corfforaethau lleol. Mae llywodraeth sir yn New Jersey yn cynnwys Bwrdd o Rydd-ddeiliaid Dethol, [12] siryf, clerc, a dirprwy (sy'n gyfrifol am brofiant diwrthwynebiad ac arferol), y mae pob un ohonynt yn cael eu hethol. Bydd gan siroedd a drefnir o dan y Gyfraith Siarter Sirol Ddewisol asiantaeth sirol etholedig. Yn draddodiadol, mae siroedd yn cyflawni dyletswyddau dan orchymyn y dalaith fel cynnal a chadw carchardai, parciau a ffyrdd penodol. Gelwir safle gweinyddiaeth a llysoedd sir yn "sedd y sir".
Llywodraethwyd New Jersey gan ddau grŵp o berchnogion fel dwy diriogaeth wahanol, East Jersey a West Jersey, rhwng 1674 a 1702. Crëwyd siroedd cyntaf New Jersey fel ardaloedd gweinyddol yn y ddwy diriogaeth, gyda East Jersey wedi'i rannu ym 1675 i siroedd Bergen, Essex, Middlesex a Monmouth, tra bod siroedd cychwynnol West Jersey, Burlington a Salem, yn dyddio i 1681. [5] Y sir ddiweddaraf a grëwyd yn New Jersey yw Union County, a grëwyd ym 1857 ac a enwyd ar ôl undeb yr Unol Daleithiau pan oedd y Rhyfel Cartref ar fin digwydd. Mae enwau siroedd New Jersey yn deillio o sawl ffynhonnell, er bod y rhan fwyaf o'i siroedd wedi'u henwi ar ôl enwau lleoedd yn Lloegr a Chymru ac arweinwyr amlwg yn y cyfnodau trefedigaethol a chwyldroadol. Bergen County yw'r sir fwyaf poblog, yn ôl Cyfrifiad 2010, gyda 905,116 o bobl, a Salem County yw'r lleiaf poblog gyda 66,083 o bobl.
Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.