rhestr From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr o'r 159 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor: [1]
Rhennir talaith Georgia yn 159 sir, sef mwy nag unrhyw dalaith arall heblaw am Texas, sydd â 254 o siroedd. O dan Gyfansoddiad Talaith Georgia, rhoddir hunain lywodraeth i'w holl siroedd i ddelio â phroblemau sy'n lleol iddynt hwy yn unig. Hefyd, mae wyth sir gyfunol sydd yn siroedd a hefyd yn awdurdodau dinas: Athens-Clarke County, Augusta-Richmond County, Columbus-Muscogee County, Georgetown-Quitman County, Statenville-Echols County, Macon-Bibb County, Cusseta-Chattahoochee County, a Preston-Webster County.
Rhwng 1732 a 1758, ardaloedd a threfi oedd y mân adrannau sifil yn Georgia. Ym 1758, rhannwyd Talaith Georgia yn wyth plwyf, a rhannwyd pedwar plwyf arall ym 1765; ym 1777, crëwyd wyth sir wreiddiol y dalaith. Y rhain oedd Burke, Camden, Chatham, Effingham, Glynn, Liberty, Richmond, a Wilkes, pob un wedi'i greu ar 5 Chwefror, 1777.
Mae gan Georgia'r ail nifer fwyaf o siroedd o unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau. [1] Yn ôl traddodiad y rheswm dros greu a lleoli cymaint o siroedd yn Georgia oedd y dylai pobl cefn gwlad gallu teithio i'r dref neu ddinas y sedd sirol gyfreithiol, ac yn ôl adref, mewn un diwrnod ar gefn ceffyl neu mewn wagen. Fodd bynnag, crëwyd tua 25 sir yn Georgia yn chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, ar ôl i'r defnydd o'r rheilffordd, ceir, tryc a bws ddod yn bosibl. Oherwydd y System Uned Sirol, a ddatganwyd yn ddiweddarach i fod yn anghyfansoddiadol, roedd gan y siroedd newydd, peth bynnag fo'i phoblogaeth o leiaf un cynrychiolydd yn senedd y dalaith, gan gadw grym gwleidyddol mewn ardaloedd gwledig. [2] Y sir newydd olaf i gael ei sefydlu yn Georgia oedd Peach County, a sefydlwyd ym 1924. [3]
Arweiniodd nifer fawr y siroedd yn Georgia at sawl gwelliant i gyfansoddiadol y dalaith i geisio sefydlu terfyn ar nifer y siroedd yn y dalaeth. Cyfyngodd y diwygiad diweddaraf o'r fath, a gadarnhawyd ym 1945, y nifer i 159 o siroedd, er y bu 161 o siroedd rhwng 1924 a 1931. Mewn cydgrynhoad siroedd, atodwyd Campbell County a Milton County i Fulton County ym 1932 am resymau ariannol. Daeth yr uno yn ystod y Dirwasgiad Mawr, gan fod y ddwy lywodraeth sir a unwyd i Fulton County ar fin meth dalu. Mae Fulton County yn cynnwys dinas Atlanta, a chredid y byddai refeniw treth Atlanta a'i maestrefi yn helpu i gefnogi ardaloedd gwledig y siroedd a daeth i ben, a oedd ag ychydig iawn o incwm treth eu hunain - yn bennaf o drethi eiddo ar ffermydd a choedwigoedd, a doedd hynny ddim yn codi llawer o arian.
Georgia yw'r unig dalaith sy'n dal i ganiatáu llywodraeth sir gan un comisiynydd. Ar hyn o bryd, mae naw o 159 sir y dalaith yn gweithredu o dan y system honno.
Mae enwau ychydig o siroedd Georgia wedi newid. Yn wreiddiol, enwyd Jasper County yn " Randolph County". Yn ddiweddarach, sefydlwyd y Randolph County cyfredol. Ar un adeg, enwyd Webster County yn "Kinchafoonee County", ac enw gwreiddiol Bartow County oedd "Cass County".
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.