rhestr UDA From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Talaith Alaska yn cynnwys 19 o fwrdeistrefi wedi eu trefnu ac un bwrdeistref heb ei drefnu, yr olaf wedi'i rhannu'n 10 ardal cyfrifiad heb drefn llywodraeth leol. Mae'r bwrdeistrefi ac ardaloedd cyfrifiad yn cyfateb i siroedd yn nhaleithiau eraill Unol Daleithiau America. Alaska a Louisiana yw'r unig daleithiau nad ydynt yn galw eu prif israniadau gweinyddol yn siroedd (mae Louisiana yn eu galw yn "blwyfi"). [1]
Cyfeirir at yr ardaloedd nad ydynt yn rhan o fwrdeistref go iawn fel y bwrdeistrefi heb drefn. Mae Swyddfa Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mewn cydweithrediad â'r dalaith, yn rhannu'r bwrdeistrefi heb drefn yn 10 ardal cyfrifiad, pob un yn cyfateb yn fras i ardal etholiadol. Mae hyn yn rhoi cyfanswm o 29 o ardaloedd sydd cyfwerth a sir i'r dalaith. Fodd bynnag, mae'r ardaloedd hyn yn bodoli at ddibenion dadansoddi a chyflwyniad ystadegol yn unig; nid oes ganddynt lywodraeth eu hunain. Mae bwrdeistrefi ac ardaloedd cyfrifiad yn cael eu trin yn gyfwerth â Sir gan Swyddfa'r Cyfrifiad.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.