From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r traddodiadau sy'n cael eu harfer yng Nghymru ar ddiwrnodau arbennig o'r flwyddyn yn cynnwys dathliadau sy'n tarddu o ddiwylliannau Cymreig a Seisnig, Cristnogol a Cheltaidd.
Fel y cofnodwyd yng Nghyfreithiau Hywel Dda, tri phrif wyliau teyrnasoedd Cymreig y canol oesoedd oedd Nadolig, y Pasg, Sulgwyn.[1]
Gwyliau pwysig eraill oedd gwleddoedd Sant Padrig ar 17 Mawrth; Gwyl Giric ar 16 Mehefin; Diweddglo Ioan Fedyddiwr a elwir hefyd yn Gwyl Ieuan y Moch – sef y diwrnod y rhyddhawyd y moch allan i'r coed i chwilota drwy'r gaeaf[2]; ar 29 Awst – Gwyl Sant Mihangel ar 29 Medi; a Calan Gaeaf ar 1 Tachwedd, Gŵyl yr Holl Saint.[3] Bragwyd ar gyfer diod arbennig o'r enw "gwirawd yr ebestyl ) a'i ddosbarthu ar ddyddiau'r saint hyn. [4]
Dyddiad | Achlysur | Math | Traddodiadau / Nodion |
---|---|---|---|
1 Ionawr | Dydd Blwyddyn Newydd | Statudol | Calennig yw'r traddodiad lle roedd plant yn cario afal wedi'i haddurno ar ddiwrnod y blwyddyn newydd. Byddai plant yn canu pennill ac yn cael rhodd arian neu fwyd.[5] |
14 Ionawr | Hen Galan | Anffurfiol | Roedd y Mari Lwyd yn cael ei chario drws i ddrws wrth ganu.[6][7][8] |
25 Ionawr | Dydd Santes Dwynwen | Anffurfiol | Diwrnod cariad.[9] |
1 Mawrth | Dydd Gwyl Dewi | Dan sylw | Nawddsant Cymru yw Dewi Sant a dethlir Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth. Mae rhai yn dymuno ei weld yn dod yn ŵyl banc: gweler Gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi. |
Amrywiol | Dydd Mawrth Ynyd | Dan sylw | Dydd Mawrth Ynyd, yn affurfiol Diwrnod Crempog, yw noswyl y cyfnod Cristnogol Y Grawys, a oedd yn ddiwrnod ymprydio. Mae'n cael ei ddathlu yn draddodiadol gan wneud crempogau,[10] oherwydd byddi blawd, wyau a llaeth yn cael eu rhoi i fyny dros gyfnod y Grawys, ac yna'u bwyta y diwrnod cynt.[11] |
Amrwyiol | Sul y Mamau | Dan sylw | Mae Sul y mamau yn draddodiadol yn digwydd ar 4ydd diwnrod Y Grawys, ac fel seibiant o'r ympryd. Mae'n cael ei ddathlu gyd chacennau a blodau. Mae'r enw yn deillio o Galatians 4:21–31, lle mae Sant Paul yn cyfeirio at stori Hagar and Sarah, sy'n siarad am "Jerusalem … sef ein Mam ni i gyd"[12] |
Amrwyiol | Dydd Gwener y Groglith | Dan sylw | Ar "Y Groglith" mae Cristnogion yn coffau diwrnod y croeshoelio gyda gwasanaethau capel/eglwys. Y pryd traddodiadol yw pysgodyn. Hen draddodiad oedd gwneud gwely Crist. Byddai plant yn casglu brwyn a chreu ffigwr Crist ar groes pren hefyd.[13] |
Amrwyiol | Sul y Pasg | Dan sylw | Ar Sul y Pasg, mae Cristnogion yn dathlu atgyfodiad Crist ac mae plant yn derbyn wyau siocled ac yn eu hela.
Byddai bynsen y groes (neu picen y grog) yn cael eu bwyta a chyfarchiad "Pasg Hapus".[14] |
16 Medi | Dydd Owain Glyndŵr | Anffurfiol | Mae llawer o ysgolion a sefydliadau bellach yn dathlu 16 Medi fel coffâd o Owain Glyndŵr, gyda gwyliau fel Gŵyl y Fflam i’w ddathlu.[15][16][17]
Yn ogystal, mae trefi sydd â chysylltiadau arbennig â Glyndŵr yn dathlu’r diwrnod, gan gynnwys Corwen a Harlech.[18][19] |
31 Hydref – 1 Tachwedd | Calan Gaeaf | Dan sylw yn hanesyddol | Dechrau'r gaeaf. Mae iddo wreiddiau Celtaidd fel un o'r gwyliau tân Celtaidd, a unodd â'r traddodiad Cristnogol ac â choffâd Tachwedd 5ed.[20]:148 |
5 Tachwedd | Noson Guto Ffowc/ Noson Tân Gwyllt | Dan sylw | Noson i goffau Cynllwyn Powdwr Gwn 1605 ar Senedd Llundain.[10] |
25 Rhagfyr | Dydd Nadolig | Cyfraith Cyffredin | Yn draddodiadol roedd Nadolig yng Nghymru yn cynnwys canu Plygain, gwneud taffi a gorymdeithiau ffagl.[21] |
26 Rhagfyr | Gwyl San Steffan | Statudol | Mae Gŵyl San Steffan yn cael ei ddathlu yng Nghymru.[22] |
31 Rhagfyr | Nos Galan | Dan sylw | Mae Nos Galan yng Nghymru yn cynnwys mynychu pantomeimiau, sioeau theatr a phartïon.[23] Mae ras ffordd Nos Galan hefyd yn cael ei chynnal yn Aberpennar.[24] |
Mae Gŵyl Fair y Canhwyllau, fel arfer ar y 2 Chwefror, yn nodi cyflwyniad Iesu yn y Deml . Mae'n seiliedig ar yr hanes am gyflwyniad Iesu yn Luc 2 :22-40. Mae'n disgyn ar y 40fed diwrnod (cyfnod ôl-enedigol) o dymor y Nadolig – Ystwyll a diwedd y tymor hwnnw.[25]
Yn lleol, roedd pob plwyf yn dathlu Gŵyl Mabsant i goffau ei sant brodorol. Datblygodd y dathliad blynyddol hwn o weddio i raglen o weithgareddau hamdden.[26]
Mae Calan Mai (neu Calan Haf) yn ddathliad Calan Mai ar 1 Mai, yn nodi diwrnod cyntaf yr haf, ac yn un o'r gwyliau tân traddodiadol. [27]
Mae Gŵyl Ifan ar 24 Mehefin yn cael ei adnabod fel diwrnod canol haf. [28]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.