![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/57/Northern_Pacific_Railroad_1894.jpg/640px-Northern_Pacific_Railroad_1894.jpg&w=640&q=50)
Rheilffordd Northern Pacific
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Rheilffordd Northern Pacific yn rheilffordd ar draws gogledd orllewin yr Unol Daleithiau, o Minnesota i’r arfordir gorllewinol. Cadarnhawyd y rheilffordd gan llywodraeth yr Unol Daleithiau ym 1864, a rhoddwyd 47 miliwn o aceri i’r rheilffordd.[1] Defnyddiwyd y tir i godi pres o Ewrop er mwyn adeiladu’r rheilffordd.
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cwmni cludo nwyddau neu bobl, transcontinental railroad, busnes ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 1970 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2 Gorffennaf 1864 ![]() |
Olynwyd gan | Rheilffordd Burlington Northern ![]() |
Rhagflaenydd | Minnesota and International Railway, Midland Continental Railroad, Everett and Monte Cristo Railway ![]() |
Olynydd | Rheilffordd Burlington Northern ![]() |
Pencadlys | Saint Paul ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhanbarth | Ashland ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/58/Northern_Pacific01LB.jpg/640px-Northern_Pacific01LB.jpg)
Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1870 ac agorwyd prif linell y rheilffordd ar 8 Medi 1883 pan osodwyd ‘golden spike’ gan Ulysses S. Grant ym Montana. Roedd gan y rheilffordd linellau yn Idaho, Gogledd Dakota, Minnesota, Montana, Oregon, Talaith Washington a Wisconsin.[2] Roedd hefyn cangen i Winnipeg, Manitoba, Canada. Cariodd y rheilffordd cynnyrch fferm, pren a mwynau yn ogystal â theithwyr.
Pencadlys y rheilffordd oedd Brainerd, Minnesota ac yn hwyrach St Paul, Minnesota[3]. Unodd y rheilffordd gyda rheilffyrdd eraill ym 1970 i fod y Rheilffordd Burlington Northern[4], ac unodd gyda Rheilffordd Atchison, Topeka a Santa Fe i fod y Rhielffordd Burlington Northern a Santa Fe ym 1996.