Rheilffordd Hejaz
rheilffordd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Rheilffordd cledrau cul (rheilffordd 1,050 mm) yw Rheilffordd Hejaz a gysylltodd dinas Damascus yn Syria â dinas Medina. Mae'r rheilffordd yn croesi Hijaz, rhanbarth o ogledd-orllewinol Arabia Sawdi. Roedd sbardyn bychan oddi ar brif linell y rheilffordd i'w gysylltu gyda phorthladd Haifa oedd, y pryd hynny'n rhan o'r Ymerodraeth ond sydd bellach yn ddinas yn Israel. Adeiladwyd y rheilffordd dan arweiniad Swltan Abdul Hamid II, rheolwr Ymerodraeth yr Otomaniaid ac o dan oruchwiliaeth Ahmed Izzat al-Abed. Roedd y prosiect uchelgeisiol hwn yn uno rhannau o Ymerodraeth yr Otomaniaid oedd yn un wladwriaeth, ond sydd bellach yn croesi tair ffin wladwriaethol.
Ffeithiau sydyn
Rheilffordd Hejaz |
---|
Cau
![Map o reilffyrdd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar gychwyn y RhB1](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/66/Ottoman_train_system_on_the_eve_of_WWI.jpg/640px-Ottoman_train_system_on_the_eve_of_WWI.jpg)
![Trên trosglwyddo ffosffad i borthladd Aqaba yn Iorddonen](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4b/Jordan_train.jpg/640px-Jordan_train.jpg)