Mae rheilffordd cledrau cul (weithiau rheilffordd gul) yn rheilffordd â chledrau sydd yn agosach at ei gilydd na'r rhai safonol a ddefnyddir gan y mwyafrif o reilffyrdd ym Mhrydain ac mewn mannau eraill yn y byd, sef 1,435mm (4tr81⁄2mod). Y mesuriadau hyn ydy'r bwlch sydd rhwng y cledrau. Mae'r rhan fwyaf o gledrau cul rhwng 2dr (610mm) a 3tr 6mod (1,067mm).
Rhagor o wybodaeth Amrywiol Draciau a'r pellter sydd rhyngddynt ...