Rhegen dŵr
rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhegen dŵr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: rhegennod dŵr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Rallus aquaticus; yr enw Saesneg arno yw Water rail. Mae'n perthyn i deulu'r Rhegennod (Lladin: Rallidae) sydd yn urdd y Gruiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Rhegen dŵr Rallus aquaticus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Gruiformes |
Teulu: | Rallidae |
Genws: | Rallus[*] |
Rhywogaeth: | Rallus aquaticus |
Enw deuenwol | |
Rallus aquaticus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn R. aquaticus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Aderyn cymharol fychan ydyw, 23–26 cm o hyd. Mae'i gefn yn frown a'i ran isaf yn llwydlas, gyda rhesi duon ar yr ystlys. Mae'r cywion yn ddu. Pryfed ac anifeiliaid dŵr bychan yw eu prif fwyd.
Mae'n aderyn cymharol gyffrein mewn cynefinoedd addas yng Nghymru, ond gall fod yn aderyn anodd iawn ei weld, gan ei fod yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn y tyfiant. Gall fod yn haws ei glywed yn y tymor nythu, pan mae'n rhoi gwich tebyg i sŵn mochyn.
Mae'r rhegen dŵr yn perthyn i deulu'r Rhegennod (Lladin: Rallidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Iâr ddŵr fannog | Porphyriops melanops | |
Iâr ddŵr fechan | Gallinula angulata | |
Rhegen Nkulengu | Himantornis haematopus |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.